1/15/2010

Yr sioe olaf y byddai'n son amdano yw Nina Ricci. Mae yna rhai eitemau o'r sioe yma dydw i ddim yn ei hoffi ond mae'r ffrog glas golau yn un o fy hoff eitemau o bob sioe pre-fall rydw i wedi eu gweld.


Pam ydw i'n hoffi'r ffrog yma gymaint? 1) Oherwydd mae'n hyd da, dydio ddim yn dangos gormod o groen ond yn ddigon byr i wisgo i barti. 2) Mae'r lliw a'r defnydd yn fy atgoffa o dylwyth teg. a 3) Dwi'n hoff iawn o'r got hefyd, mae'n gwneud i'r ffrog edrych yn llai ffurfiol.
Baswn i'n gwisgo'r ffrog yma gyda gemwaith aur neu perlau, cardigan o H&M , teights lliw hufen ag sgidiau bach glas tywyll.



Dwi ddim yn gwybod os ydw i'n gweld pethau ond dwi'n meddwl fod y dewis o fodel ar gyfer y casgliad yma yn un od iawn. Mae hi'n ddynes brydferth iawn ond, dwi'n meddwl fod y lipstick coch yn erdych yn rhy gryf o lawer,(a dyma'r peth mwyaf od) mae ei phen hi'n edrych yn fawr iawn i gymharu gyda maint ei chorff. Dwi'n siwr mae ongl y camera sydd ar fai. Yda chi'n gallu gweld fy mhwynt?



Dwi'n hoff iawn o siapiau dillad Nina Ricci, ar defnyddiau. Does ddim patrymau, ond dwi'n meddwl gall ormod o batrymau edrych yn fler. Mae'n wir for yr holl gasgliad yn edrych yn lan ag yn daclus.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau fy mini pre-fall special!

2 comments:

  1. Mae'r holl luniau o'r tri post diwethaf am y pre-fall wedi dod o www.style.com
    Os ydych eisiau gweld unrhyw sioe arall neu fwy o'r casgliadau yma cerwch i www.style.com
    x

    ReplyDelete
  2. dwin cytuno yn llwyr hefo dy disgrafiad or nina ricci "clean cut and elegant " mae hwn di rhoi gwell syniad i mi am beth i siopa am at y parti nesaf.
    Diolch yn fawr
    x x

    ReplyDelete