11/17/2010

Lanvin

Dyma'r diweddara o restr hir o gynllunwyr ffasiwn enwog mae H&M wedi cydweithio hefo nhw. Y cyntaf oedd casgliad gan Karl Lagerfield yn 2004.
Dwi'n meddwl fod hi'n saff i ddweud mai H&M sy'n arwain y 'designer collaberations' yma ar y stryd fawr, gyda enwau mawr fel Stella McCartney, Comme des Garcons, a Jimmy Choo wedi llwyddo i greu dillad sydd yn cynwys elfennau nodweddiadol o'r cwmniau mawr, ond am brisiau y stryd fawr. Ond gyda mwy a mwy o'r casgliadau 'arbennig' yma, dwi'n teimlo eu bod nhw'n llai trawiadol rhywsut.

Dwi'n gwybod baswn i wrth fy modd yn gweld casgliad gan Erdem, Dolce & Gabbana neu Chloe ar lawr siop H&M, oherwydd mai dyma'r unig ffordd alla i ddisgwyl cael unrhyw beth gan y cwmniau hyn. Oherwydd gyda rhai cwmniau, mae bod yn berchen ar unrhyw beth sy'n gysylltiedig a nhw'n arbennig, ag mae H&M yn gadael i bobl wneud hyn.
Ond ar y llaw arall, mae yna reswm pam dydi'r dillad drud yma, ddim yn cael eu gwerthu ym mhob H&M ar draws y wlad, ac wrth wneud casgliad ar gyfer y stryd fawr mae'n amlwg bydd y defnyddiau yn rhatach, a'r patrymau, a'r siapiau ddim gystal.

Felly mae'n rhaid i chi feddwl, ydi o werth prynu dilledyn o gasgliad Lanvin ar gyfer H&M, i gael dweud mae un Lanvin yw? Dydw i'm yn siwr, os yw'r casgliad yma wedi llwyddo, ac os anghonfiwch mae Lanvin yw, dwi'm yn siwr os baswn eisiau prynu rhyw lawer!





Holl luniau uchod o'r 'lookbook' ar MarieClaire.com
 Er fy mod i wedi bod yn cwyno am y casgliad, dyma fy hoff eitemau:

Lluniau o MarieClaire.com

 Wrth edrych ar y casgliad yma gan Lanvin, gwelais fod rhai pethau'n edrych yn gyfarwydd


Lluniau o style.com/marieclaire.com

Mae'r ffrog uchod o gasgliad 2008 Lanvin, mae top y ffrog yn debyg i rai o'r casgliad yma i H&M

Lluniau o style.com/marielclaire.com
Llun  o gasgliad RTW 2008, mae'n bedyg i'r sgert yma o'r casgliad.

Lluniau o Style.com/ MarieClaire.com

Unwaith eto mae'r ffrog yma o'r clasgliad SRTW 2008, yn fy atgoffa o ffrog yn y casgliad newydd ar gyfer H&M.

Mae'n beth da mewn ffordd, fod y dillad o'r casgliad yn debyg i ddillad Lanvin yn 2008, oherwydd mae'n dangos bod yna bethau nodweddiadol ohono yn y casgliad newydd yma ar gyfer H&M.

Bydd y casgliad ddim ar gael mewn unrhyw siop yng Nghymru, ond bydd ar werth ar wefan H&M o 07:00, tachwedd 23.
Ond cofiwch fod gan H&M ffrogiau gwych y gaeaf yma, sydd heb ddim i wneud a chynllunwyr enwog, ag i fod yn onest dwi'n meddwl bod nhw cystal os nad gwell na'r uchod. Be ydi'ch barn chi?

11/02/2010

Gwinedd Glitter.

llun o beaut.ie

Y botel bach o farnais gwinedd 'GOSH- RAINBOW' oedd wedi newid fy meddwl i ynglyn ag ewinedd "glittery". Wna i gyfadde mod i`n arfer meddwl bod glitter fel yma ar ewinedd yn gallu edrych yn wirion, ag yn blentynaidd iawn, ond roedd y botel uchod yma'n edrych yn aeddfed ag yn fy atgoffa o berlau. Pwy fysa ddim eisiau gwinedd sy'n edrych fel perlau?!
Ag yn amlwg mae mwy a mwy o bobl yn cael yr un weledigaeth gyda gwinedd glittery, oherwydd mae pob math o liwiau ar gael, mae O.P.I newydd lawnsio eu casgliad Nadolig, 'Burlesque collection' sy'n LLAWN o glitter.

lluniau o alizarineclaws.blogspot

O'r chwith: 'Shimmer & Shimmer', 'Extra-Va-Vaganza', 'Glow up Already', 'Bring on the Bling', 'Take the Stage', 'Rising Star', 'Sparkle-iscious', a 'Show it and Glow it'
Dwi wrth fy modd gyda pob un o'r rhain. Fy hoff un yw 'Sparkle-iscious', neu 'Extra-Va-Vaganza' - beth amdanoch chi?

Llun o beautyaddict
O.P.I Mad as a Hatter. Mae hwn wedi bod allan ers dipyn, yng nghasgliad Alice in Wonderland, ond dydw i ddim wedi llwyddo i gael un ohonyn nhw eto. Dwi wrth fy modd gyda'r farnais yma, oherwydd yr holl wahanol liwiau sydd ynddo fo. 
Llun o Flickr
N.Y.C Starry Silver Glitter Polish 105A Dyma'r lliw dwi wedi bod yn ei ddefnyddio fwya adref. Mae'n wahanol i'r holl rai uchod, oherwydd ei fod yn ddarnau man a rhai darnau mawr iawn o glitter. Mae'n glir, felly dwi'n rhoi lliw tywyll o dano fo. Mae'n edrych yn wych gyda glas tywyll neu du, neu dros goch llachar. Dwi'n gwybod fod hynna'n swnio'n wirion, ond mae'r glitter ar ei ben yn fy atgoffa o gonffeti.




Cliciwch yma i weld y fideo ELLE uchod.
 Mae'r fideo yma'n dangos yn fanwl syt i wneud 'embellishes nails' Os dydych chi`n dal ddim yn siwr os ydych yn hoffi gwinedd Glitter edrychwch ar hwn. Mae'n ffordd dda i drio'r "trend" ag yn berffaith gyda dillad parti 'dolig.