4/21/2010

Salon

Ar ddydd Llun, mi oeddwn i'n Llundain yn gwylio sioe ffasiwn 'Alternative London Fashion Week' ym marchnad Spitalfields. Sut ges i'r cyfle i eistedd rhes flaen (ie, rhes flaen!) mewn sioe ffasiwn yn llunden? Gyda rhaglen Salon gan Fflic ar gyfer S4C. Ron i'n siarad ychydig am y blog gyda Alex ac yna ges i weld y sioe ffasiwn. Felly ga i ddiolch o galon i bawb oedd yno yn edrych ar fy ol dydd Llun ac wrth gwrs i Catrin am drefnu popeth. Dwi wedi bod eisiau gweld sioe ffasiwn ers oes, ag roedd pawb oedd yno dydd Llun mor neis! Roedd o'n brofiad bendigedig. 

Mae gen i lawer o luniau i ddangos i chi o'r sioe, ond mi wnai hynny mewn sawl post yn y dyddiau nesaf. Oherwydd mae gormod ar gyfer un post!

Dyma rai o'r uchafbwyntiau:

Dyma luniau gymerais i yn y sioe ffasiwn. Bydd post am bob casgliad yn dilyn. Diolch eto i bawb o Salon!

4/12/2010

Che Camille (GLASGOW)



Dwi newydd gyrraedd yn ol o Glasgow, a mae gen i lot o newyddion yn ymwneud a ffasiwn o’r ddinas. Mae’n siwr bydd sawl post yn son am y ddinas mewn rhyw ffordd neu gilydd yn yr wythnos nesa ‘ma wrth i mi weithio fy ffordd yn ara bach drwy’r holl gylchgronau ffasiwn Albanaidd prynais yna.
 Es i weld dwy oriel yn y ddinas sef Y Kelvingrove a’r Glasgow Gallery of Modern Art a byddai’n son am y ddwy ymhen yr wythnos, ond i ddechrau’r son am Glasgow ga i ddweud am siop/gweithdy o’r enw Che Camille.
Ron i wedi clywed fod yna gynllunwyr annibynol yn arddangos eu gwaith ar lawr uchaf yr Argyll Arcade ond roedd y grisiau i’r chweched llawr yn edrych yn ddi-ddiwedd, ac ar ol cyrraedd y trydydd llawr a gweld fod dim arwydd am yr oriel yma penderfynais droi’n ol a’i bod hi’n well i mi fynd i edrych ar y dillad oedd ar gael yn House of Fraser ar draws y stryd. 


Wrth i mi droi’n ol gwelais lifft, felly es i fyny i’r chweched llawr, just rhag ofn fod yna rhywbeth arbennig ar ben yr adeilad. Mae’n rhaid i mi ddweud, dwi mor hapus y gwnes i, oherwydd mae’r siop yma’n anhygoel. 
Dechreuodd y siop gyda pymtheg o gynllunwyr o Glasgow a Chaeredin ond rwan mae wedi tyfu ag mae ganddyn nhw gynllunwyr o bob rhan o’r Alban, Sweden, Y Ffindir a’r Eidal. Mae yna stiwdio lle mae cynllunwyr yn gallu rhentio allan yng nghefn y siop, a mae eu gwaith yn gorffen i fyny ar brif lawr y siop. Mae dillad yn rhai diddorol iawn, a mae eu casgliad o emwaith, bagiau, bathodynnau ac  esgidiau’n wych! Mae nhw hefyd yn gwneud ddillad arbennig ar eich cyfer, ar ol cyfarfod i siarad am syniadau ar gyfer eich dillad mae nhw’n helpu chi i ddewis y defnydd ac yna’n gwneud y dilledyn yn arbennig ar eich cyfer.
 Ron i’n siarad am yn hir gyda Roslin oedd yn cynllunio dillad dynion yna, ac roedd hi wrth ei bodd i glywed y byswn yn siarad am Che Camille ar fy mlog. Felly rhois y cyfeiriad iddi gael edrych arno, ar ol ei rhybuddio fod y cyfan yn Gymraeg! Mi roedd hi hefyd yn garedig iawn wrth adael i mi dynnu lluniau o’r siop. A dyma nhw.... 
 


Cymerais lawer o bamffledi, cardiau busnes a ‘look book’ y cynllynwyr. Roedd sawl gwahoddiad i nosweithiau agor casgliad newydd gan y cynllunwyr yna, ond yn anffodus dydw i ddim yn mynd i Glasgow yn y dyfodol agos, felly doedd rheina ddim iws i mi.
Cerwch i weld y wefan ar checamille.com, mae yna siop ar y wefan gydag ychydig o’r dillad sydd ar gael ond dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o’r dillad yn rhai unigryw felly dydyn nhw ddim ar gael ar y we. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth gallwch yrru e-bost i threads@checamille.com neu ffonio 01412219620

4/06/2010

OUTFIT (Llandudno)


Outfit yw siop yn llawn o siopau eraill. Mae yna ddewis o Dorothy Perkins, Evans, Miss Selfrigde, Topshop, Topman, Burton, Wallis, Warehouse, Ben Sherman, Quiksilver, Flipback a Tammy.
Mae'r syniad o'r holl siopau yma dan un to'n anhygoel. Pam ydw i'n son am y siop yma rwan, wel yn gyntaf oherwydd bod yna siop Outfit yn Llandudno, a mi wnes i ymweld a'r un arbennig yma wythnos diwethaf, ond mae gen i asgwrn i'w grafu gyda'r holl siopau yma (o ran gwybodaeth Dorothy Perkins, Miss Selfrigde, Topman, Burton, Wallis, Warehouse a Evans sydd yn Outfit Llandudno.) Wrth gerdded yn hamddenol o un siop i'r llall, dach chi'n gweld fod pethau'n hynod o debyg, i ddweud y gwir roedd rhai pethau UNION yr un fath! Mae'n siwr bod yna gysylltiadau cryf iawn rhwng yr siopau yma ar y stryd fawr, ond on i 'di synnu bod union yr un pethau ym mhob siop (yn enwedig gemwaith). Oherwydd fy mod wedi bod yn cerdded o amgylch y siop mewn penbleth, mi wnes i ychydig o ymchwil i gefnogi hyn.

 
 Ydach chi'n gweld y tebygolrwydd?!
Mi wnes i sylwi'n Lerpwl dydd Llun hefyd, bod yna lawer o ddefnyddiau a phatrymau tebyg iawn yn y prif siopau.
Iawn, dyna ddigon ar fy nghwyno (tan y post nesaf!). I ymddiheuro i'r holl siopau yn Outfit Llandudno, ac i ddangos fy mod i dal yn eu caru, felly dyma ychydig o fy hoff eitemau 'accessories' o'r siopau uchod.

Topshop, 'Ship Pendant', £10




Evans 'Charm Bracelet' gyda cloc, £20

Dorothy Perkins, £9
Miss Selfridge, 'Fimo flower ring' £4

Ydach chi wedi sylw i fod yr un pethau yn yr holl siopau? A beth ydach chi'n meddwl am yr eitemau uchod? Gadewch 'comment' gyda'ch barn.