1/09/2010

Twmpath!

Heno mi fyddai yn dawnsio gwerin tan oriau man y bore. Efallai wrth glywed y geiriau dawnsio gwerin mae delwedd o ddynes mewn gwisg draddodiadol yn dod i fewn i'ch pen. Ond os ydych erioed wedi bod mewn twmpath, bysach yn meddwl yn wahanol! Ag nid unrhyw twmpath mohono, ond twmpath hen galan.
Gadewch i mi ddisgrifio twmpath hen galan i chi: Mae'n ddathliad yr hen flwyddyn newydd, rydych yn dwnsio gwerin drwy'r nos, ond gyda ambell cor yn canu rhwng gwahanol eitemau. Wedyn am hanner nos mae'r Fari Lwyd yn dod allan, (penglog ceffyl wedi ei addurno) ag wrth ddawnsio rydym yn cicio'r ceffyl. Dwi'n gwybod fod hyn yn swnio'n hollol wallgo. Ag er nad ydw i'n siwr pam mae penglog ceffyl yn ei'n croesawu i'r flwyddyn newydd mi rydw i wedi dod i arfer ei chicio ag mae'n raid i mi ddweud fy mod i'n edrych ymlaen amdano!
Rwan, dwi'n gwybod beth rydych ym meddwl (arwahan i pa mor wallgo yw'r twmpath yma), beth sydd gan hyn i wneyd gyda ffasiwn? Wel dim llawer ond peidiwch poeni dwi wedi meddwl am rhyw fath o gysylltiad!
A dyma hi:



Yr hen ddynes gymreig. Sydd yn aml yn cael ei chysylltu gyda dawnsio gwerin neu clocsio. A dyma'r cysylltiad eithaf clyfar (hydynoed os nai ddweyd fy hyn)



Dyma gasgliad A/W 2009 Alexander McQueen.. Dwi'n cofio gweld llyniau o'r sioe misoedd ynol a meddwl fod o'n edrych fel yr hen wisg gymreig oedd pawb yn gwisgo ar y 1af o Fawrth yn yr ysgol gynradd, ond yn amlwg ddim yn union!
Dyma ychydig fwy o'r casgliad:





A dyma lyniau o'r casgliad newydd ar eich cyfer (sydd gyda dim cysylltiad hefo unrhyw dwmpath!)







Llyniau o wefan ELLE o sioe A/W 09 a S/S 10 Alexander McQueen.

No comments:

Post a Comment