2/27/2010

Wedi 3

Ddoe es i lawr i Lanelli i siarad am y blog ar Wedi 3. Ga'i ddiolch yn fawr am y croeso cynnes gan bawb yno. A diolch yn arbenning i Lowri am drefnu popeth ac am ddangos diddordeb yn y blog!

LFW

Mae'n ddrwg gen i fod y post yma mor hwyr, ond dyma ddechrau ar ddydd 1af LFW. Sioe cyntaf yr wythnos oedd Paul Costelloe am 9:30 y bore. Bydda i'n son ychydig am fy hoff sioeau o bob dydd.
Dechreuodd y sioe gyda dillad aur moethus, yna dillad du ag glas yn benaf mewn siapiau diddorol, a llawer o brints 'check':

 
  
 

Yr ail sioe bydda i'n son amdano yw Bodymar roedd llawer o groen yn cael ei ddangos yn y sioe yma, ond roedd siap y ffrogiau'n ddiddorol iawn.

 
  
  
Ag yn drydydd Jean-Pierre Braganza. Roedd y sioe yma'n llawn du a piws. 


 
 

2/25/2010

Burberry Prorsum

Heddiw oedd diwrnod olaf LFW. Bysai'n gwneud synnwyr i mi ddechrau drwy son am fy hoff sioe o ddiwrnod cyntaf yr wythos ond dwi am wneud bethau yn hydynoed fwy cymleth, drwy ddechrau son am y sioe sydd wedi bod yn cael y mwyaf o sylw dros yr wythnosau diwethaf sef Burberry Prorsum. Pam y sioe yma yn benodol? Wel, yn gyntaf mae'n siwr mae dyma'r cwmni mwyaf sydd gyda sioe yn yr wythnos yma, ond y prif reswm yw oherwydd fod y cwmni wedi mynd yn hollol 'high tech' y flwyddyn yma. It Roedd son fod wythnos fasiwn Llundain yn mynd i fod yn sioe ffasiwn byd eang. Mae sioe Burberry Prorsum am gael ei ddarlledu'n fyw ar 73 gwefan e.e Grazia, Vouge a Burberry ei hun. Bydd hefyd yn darlledu'n 3D mewn pum dinas ledled y byd. Yn ol Burberry gall y sioe yma gyraedd 100 miliwn o bobl yn fyw!
Ond mewn rhai ffyrdd roedd gweld y sioe ar y we fel yma'n well na bod ynddi go iawn, oherwydd roedd cyfweliadau gyda pobl tu ol llwyfan. Rydych hefyd am gael golwg gwell o'r dillad o sgrin cyfrifiadur oherwydd does ddim siawns o rhyw ben mawr yn blocio y dillad del.

Dwi'n gobeithio'n fawr bydd mwy o eitemau wythnos fasiwn yn cael eu darlledu'n fyw ar y we. Er fod y sioe wedi bod rhwan, mae'n werth mynd i edrych arno, cerwch i http://live.burberry.com/ i weld y sioe.

Dyma dipyn o luniau o'r sioe:

 
  
  
  
 

Beth yda chi'n meddwl o'r casgliad yma? Cadewch 'comment' isod i adael i mi wybod.

2/23/2010

Topshop

Er mai cwmniau 'designer' sydd fel arfer yn dangos y pethau bydden yn gwisgo, siopau'r stryd fawr yw'r rhai sydd yn gadael i ni gael copiau rhad o be welwn ar y sioeau diweddara. Dwi'n meddwl mai y prif siopau ar y stryd fawr y dyddiau yma yw Topshop, River Island, New Look, H&M, Primark, Urban Outfitters a mae'n siwr y 'siop' mwyaf cyffrous, Asos.com. Topshop sydd wedi bod un o'r siopau mwyaf poblogaidd gan y 'fashion conscious' dros y blynyddoedd diwethaf ond yn ddiweddar mae siopau eraill wedi codi'r bar.

Roedd erthygl ddifyr yn y Guardian dros y penwythnos gan Jess Cartner-Morley yn son am y ffordd mae Topshop yn dechrau colli parch y dilynwyr ffyddlon. Ddim oherwydd bod safon y dillad yn gostwng, ond mae hi'n dweud mai llwyddiant y siop yw'r bai. Mae hi'n fwy diddorol cael rhywbeth o River Island neu Urban Outfitters na'r hen ffeffryn.

Dyma rai o fy hoff eitemau o'r gwahanol siopau.

 
  

 Mae gan pob siop ei chryfder, felly mae'n dibynnu os ydych eisiau dillad parti, gwyliau, bob dydd, gwaith neu bethbynnag.

2/22/2010

Baftas

Mae gen i lawer o ddal i fyny i wneud gyda sioeau ffasiwn Efrog Newydd a rwan Llundain hefyd, ond dwi'n meddwl y 'na i ddewis fy hoff gasgliadau ar ddiwedd yr wythnos a son amdanyn nhw'n unig, oherwydd bod cymaint o sioeau!

 Dyma bost am bwy wisgodd be yn y Baftas neithiwr.

Joely Richardson

Dwi'n hoff iawn o'r ffrog yma. Mae'r lliw yn ddewis mwy diddorol na du ag mae'r defnydd yn edrych yn foethus iawn.

Kathryn Bigelow

 

Mae'n well gen i weld ffrogiau hir ar y carped coch fel rheol, ond mae'n raid i mi ddweud fy mod i'n hoff iawn o'r ffrog yma. Mae'r fflach o liw ar waelod y ffrog yn ddiddorol, a dwi'n hoffi'r ffaith nad oes ddim gormod o dlysau ac ati.

Vera Farmiga

 
Dyma'r fath o ffrog dwi'n hoffi ei weld ar y carped coch! Yr holl ddefnydd tenau, a'r  blodau mawr ar yr un ysgwydd. Gwych. 
Anna Kendrick

Dwi'm yn siwr am y ffrog yma. Dwi'n hoffi'r lliw melyn a'r patrwm ar flaen y ffrog. Ond dwi ddim yn siwr am siap y ffrog. Beth ydach chi'n ei feddwl?

A rwan dyma fy ngwobrau i am y ffrogiau gorau .... 

Yn drydydd:
Audrey Tautou

 
Dwi'n meddwl ei bod hi'n ddewr iawn i wisgo ffrog binc golau ar garped, bag ag esgidiau coch. Mae siap y ffrog yn neis hefyd. Felly mae Audrey Tautou yn cael y drydedd wobr am fod mor ddewr ag unigryw. 

Yn ail:
Jodie Whittaker

 
Dwi'n meddwl fod unrhyw ffrog aur lawr at y llawr yn anhygoel. Mae'r ffaith fod y ffrog yma wedi ei gorchuddio mewn sequins a'i gwddw diddorol yn ei gwneud yn hyd yn oed yn well! Roedd hi'n agos iawn rhwng yr ail a'r gyntaf, ac mae'n rhaid i mi ddweud os baswn i'n cael dewis un ffrog iẁ gwisgo, hon fasai, ond mae'n rhaid i mi roi y wobr gyntaf i .....

Carey Mulligan

Llongyfarchiadau i Carey Mulligan. Nid yn unig am ennill y Bafta " actores ora" ond hi sydd efo'r ffrog ddelia'r noson hefyd. Mae'n beth dewr iawn gwisgo ffrog hollol batrymog ar y carped coch. Mae'r fath o ffrog "pensil" ar flaen y ffrog yn wahanol hefyd.

Pa ffrog yw eich ffefryn chi? Gadewch 'comment' i mi glywed eich barn.


2/12/2010

India

Dyma bost byr iawn, i ddweud fy mod i'n mynd ar wiliau i'r India fory, felly bydd dim unrhyw newyddion o'r blog yma am wythnos o leiaf.

Dewch yn ol i glywed am ffasiwn o India wythnos nesaf!
Diolch yn fawr Ffion X

2/11/2010

Alexander McQueen

Trist iawn oedd hi i glywed am farwolaeth y cynllunydd ffasiwn Alexander McQueen heddiw. McQueen oedd un o fy hoff gynllunwyr, ag mae hyn yn golled mawr i'r byd ffasiwn.



Roedd o'n enwog iawn am greu sioeau ffasiwn gwefreiddiol, a dillad anghyffredin iawn. Un o fy hoff eitemau ffasiwn erioed yw'r sgidiau anhygoel yma (sydd bron yn droedfedd o uchder!)



 

Mae'n siwr mae'r tro cyntaf welodd y rhan fwyaf o bobl y sgidiau eiconig yma, oedd mewn fideo cerddoriaeth Lady Gaga. Ond mae'r siap anhygoel yn fy atgoffa o rhyw anifail, ag mae'r faith eu bod nhw mor anhygoel o uchel yn golygu y bydd yr esgidiau yma'n cael eu cofio am flynyddoedd i ddod. 


 
 
Roedd o'n trio gwneud bob sioe ffasiwn yn hollol annisgwyliedig. Mewn un sioe cafodd Kate Moss i gerdded ar ei gyfer, ond yn lle gofyn iddi gerdded i lawr y llwyfan, mi benderfynodd o defnyddio llun 'hologram' ohoni yn cerdded lawr y llwyfan yn ei ddillad anygoel i agor y sioe.Tro arall, mi gafodd o fodel i sefyll yng nghanol y llwyfan mewn ffrog wen, gyda dau robot yn saethu paent at y ffrog. Doedd neb wedi creu dillad o flaen cynulleidfa lawn yng nghanol yr wythnosau ffasiwn o'r blaen. 
 
 


Ychydig o wythnosau'n nol mi wnes i son am y sioe uchod, ag am y tebygolrwydd i'r wisg Gymreig. Ewch i edrych arno, http://y-ffasiwn-beth.blogspot.com/2010/01/twmpath.html.


2/07/2010

Sarah Williams sydd wedi creu y bagiau isod, roedd hi'n astudio yn LCF yn ddiweddar. Mae yna gyfweliad manwl gyda hi ar wefan Syle Salvage (http://stylesalvage.blogspot.com/2010/02/lcf-ma-graduate-showcase-sarah-williams.html)
Dwi'n meddwl bod y bagiau'n edrych yn hen ffasiwn, ond mae eu siapiau yn fodern iawn:


 
  

 
 
   

Mae'r bagiau yma'n dod o gasgliad dillad dynion yn benaf ond dwi'n meddwl eu bod nhw'n brydferth iawn, ag yn hynod o ddefnyddiol i ferched hefyd. 
Beth yda chi'n ei feddwl? 
Cerwch ddarllen y cyfweliad ag i wefan Sarah Williams sef, (http://www.williams-handmade.com/collections.html)


2/04/2010

ACNE

 
Mae'r cwmni yma o'r enw Acne ac mae'n dod o Sweden. Mae nhw'n enwog am ei jeans ond mae'nt yn dod yn fwy ag yn fwy enwog am pob fath o ddillad eraill. 
Dyma y casgliad hydref 2010. Mae'r dillad yn rhai di-batrwm ond fel arfer mewn defnyddiau diddorol. 


 

 Dwi'n hoff o'r trowsus ar y lluniau yma, er nad ydych yn gallu eu gweld yn llawn. Dwi'n meddwl fod y ddau lun cyntaf yn neis iawn. Dwi wrth fy modd gyda'r ffrog ar ail dop! Ond mae'r siaced nesa yn od iawn! 

Beth yda chi'n meddwl o'r casgliad yma?