1/14/2010

pre-fall.

Beth yw'r 'pre-fall' yma rydw i'n clywed cymaint ohono? Casgliad o ddillad, self S/S neu A/W ond mae'n gasgliad llai nag yr arfer. I fod yn onest, ychydig o eitemau ychwanegol sydd yn dod yn sydyn iawn arol y casgliad haf yw'r Pre-Fall. Ond dwi wedi gwneud fy ymchwil ar eich cyfer, ag wedi gweld llawer o ddilad bydd yn eich cario yr holl ffordd i 2011!
Dwi'n meddwl y byddai'n son am sawl sioe dros ddau post gwahanol a)oherwydd fy mod bach yn ddiog, b)oherwydd bod genai sawl sioe i siarad amdano!
Felly ymlaen i'r sioe cyntaf,

Michael Kors: Dywedodd Kors ei hyn fod ei gasgliad yn "seasonlessness", felly er bydd y casgliad yma yn gostys, bydd pop ddarn o ddillad yn para am flynyddoedd ac ddim yn mynd allan o ffasiwn, ag yn blaen dyna ystyr 'pre-fall'.







Dwi'n hoff iawn o'r sgert yn yr ail lun, a'r ffordd mae'r defnydd yn edrych yn fwy diddorol ar ty fewn y dillad na'r golwg allanol. Mae'r ffrog yn edrych fel ei fod i gael ei wisgo y ffordd arall, oherwydd fod yr defnydd yn fwy clir y ffordd yna.


Y sioe nesaf yw.. Lanvin. Casgliad llawer mwy dros y top, ond eto gyda eitemau prydferth iawn. Efallai byswn yn gwisgo un eitem o bob llun canlynol gyda eitemau plaen eraill.







Dwi'n meddwl fod y casgliad yma yn un llawer mwy trist, tywyll ac unig i ryw raddau. Dwi'n hoff iawn o'r ffrog yn y llun cyntaf, a'r defnydd o'r holl emwaith yn yr ail lun. Ag mae'r sgert wen yn yr llun uchod yn anhygoel!
Felly dyna dri peth fydd dal i fod yn fyw ag yn iach erbyn dechrau hydref 2010:
1af- y defnydd o ddu. (ond gyda rhyw fath o sparkle)
2il- Llawer o gadwynau o bob maint
3ydd- Mwy o SEQUINS! Mae nhw wedi bod yma ers misoedd ond bydd hi'n werth cael rhyw eitem newydd sequins ar gyfer dolig nesaf!

No comments:

Post a Comment