6/12/2011

Oren!

Helo ers talwm! Dwi’n synnu os bydd llawer yn darllen hwn, ar ol gymaint o saib. Felly diolch o galon os ydych yn darllen! Arholiadau drosodd o’r diwedd. Hwre!
Roeddwn i’n ddigon lwcus i fod yn Amsterdam ar y 30fed o Ebrill eleni gyda fy nheulu – sef Queens day. Mae’n ddiwrnod enfawr o ddathlu ar draws Yr Iseldiroedd, a chanolbwynt y dathliadau yma yw Amsterdam. Yr eironi mawr oedd, wrth drio osgoi dathliadau un teulu brenhinol, mi gyrhaeddon ni ddinas yn orlawn a miloedd o bobl yn dathlu penblwydd brenhines arall!
Dyma rai lluniau i roi blas o be weles i. 



 Serch hyn, roedd bod yn y ddinas fel bod mewn rhyw garnifal yn Rio, gyda channoedd o gychod yn teithio lawr y camlesi, bob un yn orlawn a phobl yn dawnsio ac yn dathlu. A  llwyfannau awyr agored ar draws y ddinas, gyda grwpiau yn chwarae drwy’r dydd a stondinau o bob math. Ond y peth mwya trawiadol oedd gweld gymaint o bobl mewn oren. Roedd pobl yn gwisgo hetiau, coronau, wigs, clogau, plu ac yn peintio eu hunain yn oren. Gyda baneri, a balwns oren yn chwifio o adeiladau a chychod. Gyda channoedd o filoedd o bobl yn heidio i fewn i’r ddinas, a pob un ohonynt yn gwisgo oren, mae’r ddinas yn troi i fewn i for enfawr o oren!



Fe gawson ni’r coronau hurt yma am ddim, ac oherwydd mai dyma oedd y bobl leol yn ei wneud, mae gen i gwilydd i ddweud ein bod ni wedi eu gwisgo nhw drwy’r dydd! Gallai’m dychmygu’r fath goron i ymddangos ar unrhyw sioe ffasiwn yn y dyfodol agos!


 


Roedd gweld y fath amrywiaeth  o oren yn anhygoel, a dechreuais feddwl am oren yn y byd ffasiwn. Dwi’n cofio cyfnod pan oedd gwisgo oren yn beth dewr iawn i wneud, roedd rhyw gadwyn neu felt llachar yn ddigon ar gyfer un wisg. Ond dros yr hafau diwethaf yma, mae oren wedi dod yn rhyw fath o summer staple.Yn enwedig y lliw ‘Coral’ oherwydd ei fod yn lliw llachar, hapus, sy’n ein hatgoffa ni o’r haul a hafau braf, ac mae’n gweddu lliw haul.
Felly dechreuais edrych ar gasgliadau diweddara y byd ffasiwn, i weld faint o oren oedd yn bodoli. Casgliadau HYDREF 2011 a RESORT 2012 yw’r rhain. Mae bob llun wedi dod o Style.com. Wrth gwrs mae ‘na lawer mwy o oren yn y casgliadau, ond dyma flas o sut all oren edrych. Mwynhewch!
 



Casgliad DKNY hydref 2011 o style.com




Twenty8Twelve- hydref 2011 o Style.com
D&G- hydref 2011 o Style.com
Creatures of the wild- hydref 2011 o Style.com
Prada- hydref 2011 o Style.com
Prada- hydref 2011 o Style.com
Herve Leger- Resort 2012 o Style.com
Giles- Hydref 2011 o Syle.com

Louis Vuitton- Resort 2012 o Style.com
Oscar de la renta- resort 2012 o Style.com
Yda chi’n debygol o wisgo oren yr haf yma? Beth yw eich hoff gasgliad uchod? Gadewch i  mi wybod!

2/11/2011

Y Lle Gwisgo x2

Nodyn byr i'ch atgoffa i wylio Y Lle Gwisgo am 6:30 heno. Mi fyddai'n siarad ychydig am fy mlog, ac yn son am flog arall mi rydw i'n ei hoffi sef Style Bubble, ac un dwyieithog or enw glitterandtrauma. Cymrwch olwg arnyn nhw.
Hon fydd yr ail raglen yn y gyfres. Mi wnes i fwynhau'r diwrnod ffilmio yn fawr, roedd pawb yn lyfli. Diolch yn arbennig i Sara! Edrych ymlaen at weld y rhaglen heno.
Bydd post yn fuan am gasgliad gofod Julie Elienberger. Dyma flas ohono:
Llun o Tourist Magazine

1/20/2011

Y lle Gwisgo

Nodyn sydyn i ddeud bod cyfres newydd am ffasiwn yn dechrau ar S4C nos fory am 6:30- Y LLE GWISGO. Edrych ymlaen yn fawr. I gael rhagflas o'r rhaglen teipiwch 'y lle gwisgo' ar facebook. cliciwch yma i weld y promo ar you tube.
Post arall am ddillad o'r gofod yn fuan.

1/13/2011

Gwisgoedd o'r gofod.

Mae bron yn ddeufis ers i mi ysgifrennu unrhyw beth ar y blog. Dwi'm am eich diflasu gyda'r holl resymau sy'n gallu achosi rhywun i 'anghofio' pa mor hawdd yw hi i ysgrifennu rhywbeth bach am wefan, casgliad neu gwmni newydd dwi wedi ei weld.

Felly, blwyddyn newydd dda i chi! I ddechrau'r flwyddyn newydd gyda BANG (wrth gwrs, dwi'n neud hyn yn 'fashionably late') dwi am ddangos cyfres o gasgliadau print gofod neu 'galaxy print'.

Dwi wrth fy modd gyda lluniau o'r gofod. Dwi'n meddwl fod print gofod fel yma'n anhygoel o brydferth, yn fwy trawiadol a modern na phrint blodau y cewch ar ddillad.

Roedd gen i luniau o gasgliad Christopher Kane ar fy nghyfrifiadur ers oes, ond gyda'r cynnydd mawr mewn diddordeb yn y print yma ar hyn o bryd, on i'n meddwl ei fod o'n amser i neud post. All y diddordeb sydyn yma fod oherwydd yr holl raglenni diweddar ar y BBC? Beth bynag yw'r rheswm mae yna lawer o ddillad gwahanol gyda phrint tebyg. 


llun o zazzle.co.uk


 
Llun o smh.com.au

Llun o google
 Dyma un o fy hoff eitemau o'r print yma. Top/ffrog o Monki. Mae'n syml, ag dydi ddim hanner mor gywrain a'r casgliad sydd i ddod, ond am 20 euro, mae'n fargen.

Llun o Monki- CLICIWCH YMA I'W WELD.

Bydda i'n son am dri casgliad yn benodol dros y dyddiau nesa, ond mae gen i gymaint i ddweud amdanyn nhw, dwi am eu gwneud fel 3 post gwahanol.

Casgliad RST2011 Christopher Kane yw hwn. Mae'r print ar y dillad yn brydferth ac yn amrywiol iawn. Dywedodd Christopher Kane ei fod yn hoffi'r 'syniad o gynydd ffrwydrol allanol' oedd yn y print yma. Ond fel popeth gan Christopher Kane mae yna wrthgyferbyniaeth amlwg rhwng golau a thywyllwch, a defnyddiau ysgafn a thrwm. e.e mae yna siaced lledr a sgert chiffon yn sownd iddo.
















8 llun uchod o sytle.com

 Dwi wrth fy modd gyda'r tri llun olaf yn enwedig. Mae nhw'n ANHYGOEL! Alla i'm disgrifio faint dwi eisiau unrhyw eitem o'r casgliad yma. Er fy mod i'r un mor debygol i fynd i'r lleuad debyg! Ydach chi'n hoffi'r casgliad yma? Mae'n RHAID eich bod chi! Ond falle ddim cymaint ag ydw i?! Beth am y sgidiau? Dydw i'm yn siwr ohonyn nhw. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n eitha doniol, ond eto dwi'n meddwl bod nhw'n od iawn!


Llun o Net-a-porter. 1-5 gan Christopher Kane cliciwch YMA i weld y tudalen, ag i siopa'r casgliad. (£205-£1,420)
 Mwy i ddod yn fuan...