1/18/2010

Ìconique

Dwi wedi sylweddoli fod rhan fwyaf o'r posts yma i wneud gyda gwahanol sioeau, ag dwi eisiau amrywiaeth o bethau ar y blog yma, felly gwybodaeth am wefan yw'r post yma ddim am sioeau.
Felly beth yw'r wefan arbenig yma? Ei enw yw Iconigue, ag mae'n wefan dwi'n edrych arno yn aml iawn . Mae'r wefan yn enwog am eu 'fashion editorials' ond mae llawer o rhain ar ffyrf fideo felly os ydych eisiau eu gweld cerwch i'r wefan sef: www.iconique.com


Mae nhw'n  editorials anhygoel! Mae nhw'n ddarnau o gelf modern. Mae'r lluniau yma o sioe (sori!) Chanel haute coutre F/W gan Karl Lagerfeld. Ond ddim lluniau o ddillad yn unig yw rhain, mae'r blodau o wallt ar het yn gwneud y llun yn hynod o ddiddorol.

Dwi'n meddwl fod y llun yma yn wych hefyd! Oherwydd fod yr holl batrymau a siap y dillad yn edrych yn 'retro' iawn. 

 
Wrth feddwl am y llun yma fel waith celf ac ddim fel llun ffasiwn,  dwi'n meddwl fod y ddynes yn cuddio oherwydd ei bod yn teimlo'n ofnys neu'n drist ond mae hi hefyd yn edrych yn gryf yn y ffordd mae hi'n sefyll ag y dillad mae hi'n ei wisgo.
 
Mae'r gwahanol editorials gan wahanol arlunwyr, ag fel y dwedais mae'r casgliad yma gan Karl Lagerfeld. Ond os ydych yn erdych ar y wefan mae yna lunia a cerddoriaeth i bob casgliad. Ewch i edrych !!


No comments:

Post a Comment