1/13/2011

Gwisgoedd o'r gofod.

Mae bron yn ddeufis ers i mi ysgifrennu unrhyw beth ar y blog. Dwi'm am eich diflasu gyda'r holl resymau sy'n gallu achosi rhywun i 'anghofio' pa mor hawdd yw hi i ysgrifennu rhywbeth bach am wefan, casgliad neu gwmni newydd dwi wedi ei weld.

Felly, blwyddyn newydd dda i chi! I ddechrau'r flwyddyn newydd gyda BANG (wrth gwrs, dwi'n neud hyn yn 'fashionably late') dwi am ddangos cyfres o gasgliadau print gofod neu 'galaxy print'.

Dwi wrth fy modd gyda lluniau o'r gofod. Dwi'n meddwl fod print gofod fel yma'n anhygoel o brydferth, yn fwy trawiadol a modern na phrint blodau y cewch ar ddillad.

Roedd gen i luniau o gasgliad Christopher Kane ar fy nghyfrifiadur ers oes, ond gyda'r cynnydd mawr mewn diddordeb yn y print yma ar hyn o bryd, on i'n meddwl ei fod o'n amser i neud post. All y diddordeb sydyn yma fod oherwydd yr holl raglenni diweddar ar y BBC? Beth bynag yw'r rheswm mae yna lawer o ddillad gwahanol gyda phrint tebyg. 


llun o zazzle.co.uk


 
Llun o smh.com.au

Llun o google
 Dyma un o fy hoff eitemau o'r print yma. Top/ffrog o Monki. Mae'n syml, ag dydi ddim hanner mor gywrain a'r casgliad sydd i ddod, ond am 20 euro, mae'n fargen.

Llun o Monki- CLICIWCH YMA I'W WELD.

Bydda i'n son am dri casgliad yn benodol dros y dyddiau nesa, ond mae gen i gymaint i ddweud amdanyn nhw, dwi am eu gwneud fel 3 post gwahanol.

Casgliad RST2011 Christopher Kane yw hwn. Mae'r print ar y dillad yn brydferth ac yn amrywiol iawn. Dywedodd Christopher Kane ei fod yn hoffi'r 'syniad o gynydd ffrwydrol allanol' oedd yn y print yma. Ond fel popeth gan Christopher Kane mae yna wrthgyferbyniaeth amlwg rhwng golau a thywyllwch, a defnyddiau ysgafn a thrwm. e.e mae yna siaced lledr a sgert chiffon yn sownd iddo.
















8 llun uchod o sytle.com

 Dwi wrth fy modd gyda'r tri llun olaf yn enwedig. Mae nhw'n ANHYGOEL! Alla i'm disgrifio faint dwi eisiau unrhyw eitem o'r casgliad yma. Er fy mod i'r un mor debygol i fynd i'r lleuad debyg! Ydach chi'n hoffi'r casgliad yma? Mae'n RHAID eich bod chi! Ond falle ddim cymaint ag ydw i?! Beth am y sgidiau? Dydw i'm yn siwr ohonyn nhw. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n eitha doniol, ond eto dwi'n meddwl bod nhw'n od iawn!


Llun o Net-a-porter. 1-5 gan Christopher Kane cliciwch YMA i weld y tudalen, ag i siopa'r casgliad. (£205-£1,420)
 Mwy i ddod yn fuan...




1 comment:

  1. Helo!
    Licio'r steil sydd ar y blog yma'n fawr! Sylwais ar y post yma am Christopher Kane, dwi'n ffan enfawr o'i waith. Biti na fyswn i'n gymaint o ffan o'i brisiau!
    Dwi'n gweld dy fod hefo diddordeb mawr mewn ffasiwn a mae'r blog yma 'di cael ei 'sgwennu mor dda.
    Gwych i weld blog ffasiwn Gymraeg ar y we. Syniad mor wych, dwi wedi penderfynu cychwyn un fy hun! Dwi'n credu y dylsai ffasiwn gael llawer mwy o hwb a sylw yma yng Nghymru, mae ffasiwn yn gelfyddyd hefyd.
    Dwi'n falch fy mod wedi dod ar draws y blog yma ac edrychaf ymlaen i weld llawer mwy o bostiau yma :) Heledd

    ReplyDelete