11/17/2010

Lanvin

Dyma'r diweddara o restr hir o gynllunwyr ffasiwn enwog mae H&M wedi cydweithio hefo nhw. Y cyntaf oedd casgliad gan Karl Lagerfield yn 2004.
Dwi'n meddwl fod hi'n saff i ddweud mai H&M sy'n arwain y 'designer collaberations' yma ar y stryd fawr, gyda enwau mawr fel Stella McCartney, Comme des Garcons, a Jimmy Choo wedi llwyddo i greu dillad sydd yn cynwys elfennau nodweddiadol o'r cwmniau mawr, ond am brisiau y stryd fawr. Ond gyda mwy a mwy o'r casgliadau 'arbennig' yma, dwi'n teimlo eu bod nhw'n llai trawiadol rhywsut.

Dwi'n gwybod baswn i wrth fy modd yn gweld casgliad gan Erdem, Dolce & Gabbana neu Chloe ar lawr siop H&M, oherwydd mai dyma'r unig ffordd alla i ddisgwyl cael unrhyw beth gan y cwmniau hyn. Oherwydd gyda rhai cwmniau, mae bod yn berchen ar unrhyw beth sy'n gysylltiedig a nhw'n arbennig, ag mae H&M yn gadael i bobl wneud hyn.
Ond ar y llaw arall, mae yna reswm pam dydi'r dillad drud yma, ddim yn cael eu gwerthu ym mhob H&M ar draws y wlad, ac wrth wneud casgliad ar gyfer y stryd fawr mae'n amlwg bydd y defnyddiau yn rhatach, a'r patrymau, a'r siapiau ddim gystal.

Felly mae'n rhaid i chi feddwl, ydi o werth prynu dilledyn o gasgliad Lanvin ar gyfer H&M, i gael dweud mae un Lanvin yw? Dydw i'm yn siwr, os yw'r casgliad yma wedi llwyddo, ac os anghonfiwch mae Lanvin yw, dwi'm yn siwr os baswn eisiau prynu rhyw lawer!





Holl luniau uchod o'r 'lookbook' ar MarieClaire.com
 Er fy mod i wedi bod yn cwyno am y casgliad, dyma fy hoff eitemau:

Lluniau o MarieClaire.com

 Wrth edrych ar y casgliad yma gan Lanvin, gwelais fod rhai pethau'n edrych yn gyfarwydd


Lluniau o style.com/marieclaire.com

Mae'r ffrog uchod o gasgliad 2008 Lanvin, mae top y ffrog yn debyg i rai o'r casgliad yma i H&M

Lluniau o style.com/marielclaire.com
Llun  o gasgliad RTW 2008, mae'n bedyg i'r sgert yma o'r casgliad.

Lluniau o Style.com/ MarieClaire.com

Unwaith eto mae'r ffrog yma o'r clasgliad SRTW 2008, yn fy atgoffa o ffrog yn y casgliad newydd ar gyfer H&M.

Mae'n beth da mewn ffordd, fod y dillad o'r casgliad yn debyg i ddillad Lanvin yn 2008, oherwydd mae'n dangos bod yna bethau nodweddiadol ohono yn y casgliad newydd yma ar gyfer H&M.

Bydd y casgliad ddim ar gael mewn unrhyw siop yng Nghymru, ond bydd ar werth ar wefan H&M o 07:00, tachwedd 23.
Ond cofiwch fod gan H&M ffrogiau gwych y gaeaf yma, sydd heb ddim i wneud a chynllunwyr enwog, ag i fod yn onest dwi'n meddwl bod nhw cystal os nad gwell na'r uchod. Be ydi'ch barn chi?

No comments:

Post a Comment