3/25/2010

Maxi

Yn bersonol dwi'n meddwl dyle pawb wisgo ffrogiau drwy'r flwyddyn. Y prif reswm dwi mor hoff o ffrogiau yw eu bod nhw mor hawdd i'w gwisgo fel mae nhw'n dweud. Mae 'na rywbeth hamddenol iawn am ffrogiau. Dim ond taflu un ymlaen, adio 'sgidiau, bag ac efallai teits a siaced amser yma'r flwyddyn sydd angen arnoch.
Mae cymaint o wahanol fathau o ffrogiau, ac efallai eich bod yn meddwl mae pethau hafaidd, neu ar gyfer achlysuron arbenig ydyn nhw'n unig.
Roedd yna eitem gan Elle yn ddiweddar am 'Instant Outfit' a ffrog Maxi oedd hon cliciwch ar http://www.elleuk.com/shopping/instant-outfit i'w gweld. Naeth hyn neud i mi feddwl am pa mor hawdd yw hi i wisgo ffrog Maxi. Dwi o hyd wedi meddwl fod ffrogiau hir fel yma'n beth hafaidd iawn, er mai dyma'r ffrog sy'n cuddio'ch corff fwyaf.
Dwi wedi ffeindio ffrogiau Maxi o wahanol siopau ar eich cyfer.

Llun o wefan Elle
New look £25
 Dyma'r ffrog o'r 'Instant Outfit' gan Elle. Mae'n  un print digidol, ond mae'n fy atgoffa i o rywbeth 'Aztec' sydd yn ffasiynol rwan.

Llun o wefan Debenhams
 Matthew Williamson yn Debenhams, £120
Dwi'm yn siwr am y ffrog yma, mae'n drawiadol iawn ond dwi'n meddwl bod gormod o batrwm.

Llun o asos.com
Asos, £30
Dwi'n hoffi'r syniad o'r defnydd du ysgafn a'r patrwm lliwgar. Mae'r ffrog yma'n syml ond dyma un o fy hoff rai dwi'n meddwl.

Llun o wefan Topshop
Top Shop, £75.
Dydi'r ffrog yma ddim yn edrych mor hir a'r lleill i mi, efallai oherwydd ei bod yn siap gwahanol. Dwi'n hoffi'r ffrog yma, ond dwi'n tueddu i feddwl fod ffrogiau mor hir a hyn yn gweithio'n well mewn steil mwy tynn.



3/21/2010

Sgidie

Roedd y post diwethaf yna am Asda'n bach o araith. Ond dyna be sy'n digwydd os dwi'm yn postio am dipyn, na phoenwch, mae gen i luniau o esgidiau arbennig ar eich cyfer.
 
Mae'r esgidiau yma o gaslgiad Balenciaga F/W 2010gan Pierre Hardy. Mae nhw'n esiampl perffaith o ddillad 'futuristic' a hen hen bethau fel hen esgidiau dynion sy'n hynod o ffasiynol ar hyn o bryd.
Gyda'r defnydd o blastic lliwgar, pren a lledr yn eu gwneud nhw'n drawiadol iawn.

 Mae nhw'n esgidiau 'marmite', rydych una i am eu caru nhw, neu feddwl bod nhw'n hynod o hyll! Ond dwi'n meddwl bod nhw'n wych! Dwi'n meddwl eu bod nhw'n fersiynau mwy diddorol o'r esgidiau nesaf yma....


Dyma esgid o sioe diweddaraf Chanel, mae'r sawdl pren i fod yn beth mawr iawn yr haf yma. Mae siap yr esgid yn eithaf tebyg i'r rhai Balenciaga ond dwi'n meddwl fod rhein braidd yn ddiflas i gymharu a'r darnau o gelf uchod.
Mae'r esgid yma gan Tabitha Simmons yn debyg iawn i flaen yr esgidiau Balencia hefyd, ond dwi'n meddwl bod nhw braidd yn blaen.

Rwan, allai'm dweud dim byd drwg am yr esgidiau yma. Dwi'n hoff iawn o 'brogues', a'r hysbyseb yma gan Russell&Bromley yn Elle blwyddyn diwethaf ddechreuodd fy obsesiwn gyda'r esgidiau hen ddynion yma. 'Berry Brouge' ydyn nhw, a dwi'n meddwl eu bod hi'n iawn i ddweud mai dyma fy hoff esgidiau fflat erioed. Efallai dyma pam dwi'n hoff o'r esgidiau Balenciaga oherwydd rwy'n gweld tebygolrwydd i'r rhain ynddyn nhw.

Beth yda chi'n meddwl am yr esgidiau Balenciaga F/W 2010?

3/16/2010

Asda

Mae'n siwr eich bod wedi clywed bod Asda yn cynnig eich bod yn gallu mynd a dillad yn ol o fewn 100 diwrnod. Gallwch wisgo'r dillad cymaint ag ydych eisiau ag yna ei ddychwelyd o fewn yr amser. Mae nhw'n dweud mai'r rheswm am hyn yw i drio atal y duedd o "throwaway fashion" ond dwi'n meddwl mai creu cymuned ffasiwn llawn gwastraff bydd hyn.
Dillad George yw rhai o'r rhataf ar y stryd fawr, a dwi'n meddwl mai annog pobl i brynu dillad am y nesa peth i ddim yna eu taflu a phrynu llond cwpwrdd hollol newydd o fewn mis neu ddau fydd hyn. Wedyn am wn i mai dim ond taflu'r dillad fydd Asda yn ei wneud ar ol cael derbyn y dillad 'gwrthodedig' yma. 
Serch hyn, mae'n rhaid i mi ddweud bod dillad George yn well ar y cyfan na dillad o archfarchnadoedd eraill, mae nhw'n creu copiau o'r sioeau ffasiwn yn sydyn iawn. Felly dyma dipyn o ddillad George - mi rydw i'n eich argymell i'w hystyried, hyd yn oed os ydych am ddychwelyd y cyfan mewn deufis!

Dwi wedi trio dangos tebygolrwydd rhwng dillad 'designer' a dillad o George:

lluniau o Acnestudios.com a direct.asda.com
 
Ar y chwith mae Jeans gan Acne, ag yna Jeggings o George.
Jeans- 'Kex Black Snow' gan Acne. £170 Mae Ance yn adnabyddus am eu Jeans oherwydd eu bod yn ffitio'n dda ac yn para am yn hir.
'G21 Dio Dye Jeggings' George- Yn amlwg ddim Jeans yw'r rhain ond jeggings, mae yna boced ffug a dwi'n hoff iawn o'r lliw graddol trwy'r dilledyn.



lluniau o net-a-porter.com a direct.asda.com


Chwith: ffrog gan Diane von Furstenberg o Net-a-porter.com ag yna ffrog o George.
'Arita Jersey mini dress' gan Diane Von Furstenberg, £290. Mae gan y ffrog yma strwythyr pendant i'r ysgwyddau a chefn isel.
'Stud trim dress' o George, £14. Mae 'ruche detail' ar yr ysgwyddau a studs ar flaen y ffrog.

Lluniau o net-a-porter.com a direct.asda.com
 
Chwith: crys gan Paul & Joe o Net-a-porter.com yna crys o George.
Calimero 'cotton-blend shirt' o Paul & Joe, £135. Mae gan y crys yma bocedi, botymau 'perl' lawr y canol a hem gwyn ar hyd gwaelod y crys.
'Checked Western Shirt' o George, £12, ond rwan £6. Mae gan y crys yma bocedi hefyd, a botymau du lawr canol y crys.

Mae'r holl eitemau yma o George yn rhai deniadol iawn, ar y cyfan mae eu dillad nhw'n ffasiynol a mae nhw hefyd yn dod mewn llawer maint gwahanol. Dwi wedi gweld maint 9,11 a 13 yn y siop or blaen!

Dywedodd Fiona Lambert, cyfarwyddwr brand George, mewn erthygl ar gyfer y Guardian "The George 100 day quality guarantee now means that our customers should be just as happy with a George garment after washing and wearing as the day they bought it." Ond mae'n rhaid i chi feddwl am cyn lleied o arian, ydi hi'n bosib i'r dillad yma fod o safon uchel? Hefyd mae'n rhaid ystyried, pa fath o dal mae'r gweithwyr yn ei gael am greu'r dillad? Ond gyda'r 'gimic' yma bydd mwy o bobl yn prynu dillad o'r cawr Americanaidd o archfarchnad yma, ydi hyn yn beth da?

3/11/2010

Femme

Rydw i'n fyw ar y blogiadur rwan!  Croeso i ddarllenwyr newydd. Diolch Aran.


Dydd Llun, roedd hi'n ganmlwyddiant Diwrnod Rhyngwladol Merched. I ddathlu y diwrnod mae llawer o gynllunwyr, benywaidd ar y cyfan, wedi cynllunio crys-T yr un. Mae nhw ar gael ar NET-A-PORTER.COM yn unig, wedi cael eu creu gan Harper's Bazaar a gyda'r elusen Women for Women, mae nhw'n elusen sy'n trio creu ymwybyddiaeth am galedi aruthrol ledled byd i ferched.

Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women

Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women a Bella Freud


Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women a Betty Jackson


Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women a Jimmy Choo

Mae pob un o'r crysau T yma'n costio £30. Cerwch i wefan  Net-a-porter.com i weld pob un o'r cynlluniau. Pa un yw eich hoff un chi?

3/10/2010

Jack Wills

Dwi'n hoff iawn o ddillad Jack Wills, yn enwedig y lluniau o'r dillad yn y catalog dwi'n cael drwy'r post. Dwi'm yn gwybod os ydych erioed wedi bod i fewn i siop Jack Wills, does ddim llawer ohonynt. Yr un agosaf ata i yw'r un yng Nghaer.


Ond roedd syrpreis yn aros amdanaf pan gyrhaeddais adref ychydig o ddyddiau'n ol, roedd e-bost gan Jack Wills yn dweud fod yna wefan 'outlet' newydd ganddyn nhw ac oherwydd fy mod yn rhan o 'gymuned Jack Wills' mi rydw i wedi cael fy newis i allu mynd ar y wefan arbenig yma.


Mae nhw'n dweud mae dim ond nifer bach o bobl sydd wedi cael eu dewis i allu cyraedd y wefan yma. Mae'n rhaid i chi roi cyfrinair arbeing i allu mynd ar y wefan. Yn anffodus dydi'r cyfrinair ddim yn gallu cael ei ddefnyddio gan wahanol bobl, ond os ydych eisiau gwybod mwy am yr wefan outlet yma ewch i wefan Jack Wills. 
Dyma engrhaifft o ddillad o'r wefan ei hun, Bysa'r wisg yma yn costio £348 ond gyda hyd at 75% i ffwrdd ar yr wefan arbennig mae fy mreuddwyd o gael rhywbeth o'r siop yn edrych yn fwy realistig. Mae gen i fy llygaid ar y jeans yma sy'n £44 yn lle £79.

3/08/2010

Alice In Wonderland

Mae lot o son wedi bod am y film newydd yma gan Tim Burton. Dwi'n meddwl mai y peth mwyaf cyffrous am y film yma fydd y dillad ar set. Oherwydd bod cymaint o son wedi bod am y ffilm, mae llawer o siopau wedi creu pethau gyda'r thema 'Alice In Wonderland.' Dyma luniau o'r ffilm: 
  
  
  
lluniau o listal.com
  
Breichled gan Tom Binnis ar gyfer Disney Couture 'Alice in Wonderland Gold Plated Multi Chain Bracelet' 
£105.00 (ASOS.com) 
 
Top gan Truly Madly Deeply 'White Rabbit Sweatshirt'
£35 (Urban Outfitters) 

Esgidiau 'ASOS MAGNOLIA Ditsy lace up shoe' 
£28 (ASOS) 

 
Paled colur gan Urban Decay 'Alice in Wonderland book of shadows 
£28 (Debenhams)  
 
Dwi'n hoff iawn o golur Urban Decay, yn enwedig y sets arbenig mae nhw'n eu gwneud, oherwydd rydych yn cael ychydig o gymaint o wahanol liwiau, ond hefyd y bocs ei hun. Mae'r llun 'pop up' o Alice yn anhygoel! 

Mi rydw i hefyd wedi ffeindio y llun yma o wefan Illamasqua, sydd yn gwmni colur anghyffredin. Mae'n lun o gasgliad 'Porcelain doll' o ychydig fisoedd yn ol.
 
 
 Dwi'n meddwl fod o'n edrych hanner ffordd rhwng cymeriad Jonny Depp, ag Alice yn y ffilm.

Mae'r llun yma o gasgliad arall ganddynt yn fy atgoffa o frenhines y calonnau o'r film.


3/03/2010

Pedwerydd diwrnod:

Fy hoff sioe y diwrnod yma oedd sioe Christopher Kane, roedd o'n llawn patrymau blodau dros yr holl ddillad. Does ddim un sioe arall gyda'r fath gysylltiad drwy'r holl sioe.

 
  
  
 

3/01/2010

LFW unwaith eto....

Dydd Gwyl Dwei hapus i bawb! Gobeithio eich bod wedi cael diwrnod da.

Dwi am son am fy hoff sioe o bob diwrnod.

Yr ail ddiwrnod 
Dwi'n meddwl mae sioe Mary Katrantzou oedd fy ffefryn o'r ail ddiwrnod. Roedd o'n sioe llawn dillad moethus a patrymau diddorol.

 
  
  
  
 Dwi'n hoffi'r gymaint o wahanol fathau o ddenyddiau sydd yn y casgliad yma. Mae yna berlau, sidan a 'lace' sydd yn gwneud i'r dillad edrych yn foethus iawn. Dwi hefyd yn hoff iawn o'r esgidiau yn y llun olaf. 

Y Trydydd diwrnod

Mulberry- Dwi'n meddwl mae sioe Mullberry oedd fy hoff sioe o'r wythnos gyfan, oherwydd bod cymaint o amrywiaeth i'r dillad. 
Fel arfer mae dau neu dri prif thema i'r dillad ag gall y sioe fod braidd yn undonog gyda dimond newid bach mewn lliw neu siap y dillad drwy'r casgliad. Ond dwi'n meddwl fod sioe Mulberry yn llawn o ddillad gwahanol ag unigryw. Felly dyma'r lluniau holl bwysig: