3/01/2010

LFW unwaith eto....

Dydd Gwyl Dwei hapus i bawb! Gobeithio eich bod wedi cael diwrnod da.

Dwi am son am fy hoff sioe o bob diwrnod.

Yr ail ddiwrnod 
Dwi'n meddwl mae sioe Mary Katrantzou oedd fy ffefryn o'r ail ddiwrnod. Roedd o'n sioe llawn dillad moethus a patrymau diddorol.

 
  
  
  
 Dwi'n hoffi'r gymaint o wahanol fathau o ddenyddiau sydd yn y casgliad yma. Mae yna berlau, sidan a 'lace' sydd yn gwneud i'r dillad edrych yn foethus iawn. Dwi hefyd yn hoff iawn o'r esgidiau yn y llun olaf. 

Y Trydydd diwrnod

Mulberry- Dwi'n meddwl mae sioe Mullberry oedd fy hoff sioe o'r wythnos gyfan, oherwydd bod cymaint o amrywiaeth i'r dillad. 
Fel arfer mae dau neu dri prif thema i'r dillad ag gall y sioe fod braidd yn undonog gyda dimond newid bach mewn lliw neu siap y dillad drwy'r casgliad. Ond dwi'n meddwl fod sioe Mulberry yn llawn o ddillad gwahanol ag unigryw. Felly dyma'r lluniau holl bwysig: 

 
  

  

1 comment:

  1. Dwi'n dwli ar y casgliad yma Ffion! Yn enwedig y sgidie glas. A'r ffrog gynta. Www dwishe pob dilledyn fana!!
    Lowri x

    ReplyDelete