3/16/2010

Asda

Mae'n siwr eich bod wedi clywed bod Asda yn cynnig eich bod yn gallu mynd a dillad yn ol o fewn 100 diwrnod. Gallwch wisgo'r dillad cymaint ag ydych eisiau ag yna ei ddychwelyd o fewn yr amser. Mae nhw'n dweud mai'r rheswm am hyn yw i drio atal y duedd o "throwaway fashion" ond dwi'n meddwl mai creu cymuned ffasiwn llawn gwastraff bydd hyn.
Dillad George yw rhai o'r rhataf ar y stryd fawr, a dwi'n meddwl mai annog pobl i brynu dillad am y nesa peth i ddim yna eu taflu a phrynu llond cwpwrdd hollol newydd o fewn mis neu ddau fydd hyn. Wedyn am wn i mai dim ond taflu'r dillad fydd Asda yn ei wneud ar ol cael derbyn y dillad 'gwrthodedig' yma. 
Serch hyn, mae'n rhaid i mi ddweud bod dillad George yn well ar y cyfan na dillad o archfarchnadoedd eraill, mae nhw'n creu copiau o'r sioeau ffasiwn yn sydyn iawn. Felly dyma dipyn o ddillad George - mi rydw i'n eich argymell i'w hystyried, hyd yn oed os ydych am ddychwelyd y cyfan mewn deufis!

Dwi wedi trio dangos tebygolrwydd rhwng dillad 'designer' a dillad o George:

lluniau o Acnestudios.com a direct.asda.com
 
Ar y chwith mae Jeans gan Acne, ag yna Jeggings o George.
Jeans- 'Kex Black Snow' gan Acne. £170 Mae Ance yn adnabyddus am eu Jeans oherwydd eu bod yn ffitio'n dda ac yn para am yn hir.
'G21 Dio Dye Jeggings' George- Yn amlwg ddim Jeans yw'r rhain ond jeggings, mae yna boced ffug a dwi'n hoff iawn o'r lliw graddol trwy'r dilledyn.



lluniau o net-a-porter.com a direct.asda.com


Chwith: ffrog gan Diane von Furstenberg o Net-a-porter.com ag yna ffrog o George.
'Arita Jersey mini dress' gan Diane Von Furstenberg, £290. Mae gan y ffrog yma strwythyr pendant i'r ysgwyddau a chefn isel.
'Stud trim dress' o George, £14. Mae 'ruche detail' ar yr ysgwyddau a studs ar flaen y ffrog.

Lluniau o net-a-porter.com a direct.asda.com
 
Chwith: crys gan Paul & Joe o Net-a-porter.com yna crys o George.
Calimero 'cotton-blend shirt' o Paul & Joe, £135. Mae gan y crys yma bocedi, botymau 'perl' lawr y canol a hem gwyn ar hyd gwaelod y crys.
'Checked Western Shirt' o George, £12, ond rwan £6. Mae gan y crys yma bocedi hefyd, a botymau du lawr canol y crys.

Mae'r holl eitemau yma o George yn rhai deniadol iawn, ar y cyfan mae eu dillad nhw'n ffasiynol a mae nhw hefyd yn dod mewn llawer maint gwahanol. Dwi wedi gweld maint 9,11 a 13 yn y siop or blaen!

Dywedodd Fiona Lambert, cyfarwyddwr brand George, mewn erthygl ar gyfer y Guardian "The George 100 day quality guarantee now means that our customers should be just as happy with a George garment after washing and wearing as the day they bought it." Ond mae'n rhaid i chi feddwl am cyn lleied o arian, ydi hi'n bosib i'r dillad yma fod o safon uchel? Hefyd mae'n rhaid ystyried, pa fath o dal mae'r gweithwyr yn ei gael am greu'r dillad? Ond gyda'r 'gimic' yma bydd mwy o bobl yn prynu dillad o'r cawr Americanaidd o archfarchnad yma, ydi hyn yn beth da?

No comments:

Post a Comment