2/22/2010

Baftas

Mae gen i lawer o ddal i fyny i wneud gyda sioeau ffasiwn Efrog Newydd a rwan Llundain hefyd, ond dwi'n meddwl y 'na i ddewis fy hoff gasgliadau ar ddiwedd yr wythnos a son amdanyn nhw'n unig, oherwydd bod cymaint o sioeau!

 Dyma bost am bwy wisgodd be yn y Baftas neithiwr.

Joely Richardson

Dwi'n hoff iawn o'r ffrog yma. Mae'r lliw yn ddewis mwy diddorol na du ag mae'r defnydd yn edrych yn foethus iawn.

Kathryn Bigelow

 

Mae'n well gen i weld ffrogiau hir ar y carped coch fel rheol, ond mae'n raid i mi ddweud fy mod i'n hoff iawn o'r ffrog yma. Mae'r fflach o liw ar waelod y ffrog yn ddiddorol, a dwi'n hoffi'r ffaith nad oes ddim gormod o dlysau ac ati.

Vera Farmiga

 
Dyma'r fath o ffrog dwi'n hoffi ei weld ar y carped coch! Yr holl ddefnydd tenau, a'r  blodau mawr ar yr un ysgwydd. Gwych. 
Anna Kendrick

Dwi'm yn siwr am y ffrog yma. Dwi'n hoffi'r lliw melyn a'r patrwm ar flaen y ffrog. Ond dwi ddim yn siwr am siap y ffrog. Beth ydach chi'n ei feddwl?

A rwan dyma fy ngwobrau i am y ffrogiau gorau .... 

Yn drydydd:
Audrey Tautou

 
Dwi'n meddwl ei bod hi'n ddewr iawn i wisgo ffrog binc golau ar garped, bag ag esgidiau coch. Mae siap y ffrog yn neis hefyd. Felly mae Audrey Tautou yn cael y drydedd wobr am fod mor ddewr ag unigryw. 

Yn ail:
Jodie Whittaker

 
Dwi'n meddwl fod unrhyw ffrog aur lawr at y llawr yn anhygoel. Mae'r ffaith fod y ffrog yma wedi ei gorchuddio mewn sequins a'i gwddw diddorol yn ei gwneud yn hyd yn oed yn well! Roedd hi'n agos iawn rhwng yr ail a'r gyntaf, ac mae'n rhaid i mi ddweud os baswn i'n cael dewis un ffrog iẁ gwisgo, hon fasai, ond mae'n rhaid i mi roi y wobr gyntaf i .....

Carey Mulligan

Llongyfarchiadau i Carey Mulligan. Nid yn unig am ennill y Bafta " actores ora" ond hi sydd efo'r ffrog ddelia'r noson hefyd. Mae'n beth dewr iawn gwisgo ffrog hollol batrymog ar y carped coch. Mae'r fath o ffrog "pensil" ar flaen y ffrog yn wahanol hefyd.

Pa ffrog yw eich ffefryn chi? Gadewch 'comment' i mi glywed eich barn.


No comments:

Post a Comment