2/11/2010

Alexander McQueen

Trist iawn oedd hi i glywed am farwolaeth y cynllunydd ffasiwn Alexander McQueen heddiw. McQueen oedd un o fy hoff gynllunwyr, ag mae hyn yn golled mawr i'r byd ffasiwn.



Roedd o'n enwog iawn am greu sioeau ffasiwn gwefreiddiol, a dillad anghyffredin iawn. Un o fy hoff eitemau ffasiwn erioed yw'r sgidiau anhygoel yma (sydd bron yn droedfedd o uchder!)



 

Mae'n siwr mae'r tro cyntaf welodd y rhan fwyaf o bobl y sgidiau eiconig yma, oedd mewn fideo cerddoriaeth Lady Gaga. Ond mae'r siap anhygoel yn fy atgoffa o rhyw anifail, ag mae'r faith eu bod nhw mor anhygoel o uchel yn golygu y bydd yr esgidiau yma'n cael eu cofio am flynyddoedd i ddod. 


 
 
Roedd o'n trio gwneud bob sioe ffasiwn yn hollol annisgwyliedig. Mewn un sioe cafodd Kate Moss i gerdded ar ei gyfer, ond yn lle gofyn iddi gerdded i lawr y llwyfan, mi benderfynodd o defnyddio llun 'hologram' ohoni yn cerdded lawr y llwyfan yn ei ddillad anygoel i agor y sioe.Tro arall, mi gafodd o fodel i sefyll yng nghanol y llwyfan mewn ffrog wen, gyda dau robot yn saethu paent at y ffrog. Doedd neb wedi creu dillad o flaen cynulleidfa lawn yng nghanol yr wythnosau ffasiwn o'r blaen. 
 
 


Ychydig o wythnosau'n nol mi wnes i son am y sioe uchod, ag am y tebygolrwydd i'r wisg Gymreig. Ewch i edrych arno, http://y-ffasiwn-beth.blogspot.com/2010/01/twmpath.html.


No comments:

Post a Comment