Helo ers talwm! Dwi’n synnu os bydd llawer yn darllen hwn, ar ol gymaint o saib. Felly diolch o galon os ydych yn darllen! Arholiadau drosodd o’r diwedd. Hwre!
Roeddwn i’n ddigon lwcus i fod yn Amsterdam ar y 30fed o Ebrill eleni gyda fy nheulu – sef Queens day. Mae’n ddiwrnod enfawr o ddathlu ar draws Yr Iseldiroedd, a chanolbwynt y dathliadau yma yw Amsterdam. Yr eironi mawr oedd, wrth drio osgoi dathliadau un teulu brenhinol, mi gyrhaeddon ni ddinas yn orlawn a miloedd o bobl yn dathlu penblwydd brenhines arall!
Dyma rai lluniau i roi blas o be weles i.
Serch hyn, roedd bod yn y ddinas fel bod mewn rhyw garnifal yn Rio, gyda channoedd o gychod yn teithio lawr y camlesi, bob un yn orlawn a phobl yn dawnsio ac yn dathlu. A llwyfannau awyr agored ar draws y ddinas, gyda grwpiau yn chwarae drwy’r dydd a stondinau o bob math. Ond y peth mwya trawiadol oedd gweld gymaint o bobl mewn oren. Roedd pobl yn gwisgo hetiau, coronau, wigs, clogau, plu ac yn peintio eu hunain yn oren. Gyda baneri, a balwns oren yn chwifio o adeiladau a chychod. Gyda channoedd o filoedd o bobl yn heidio i fewn i’r ddinas, a pob un ohonynt yn gwisgo oren, mae’r ddinas yn troi i fewn i for enfawr o oren!
Fe gawson ni’r coronau hurt yma am ddim, ac oherwydd mai dyma oedd y bobl leol yn ei wneud, mae gen i gwilydd i ddweud ein bod ni wedi eu gwisgo nhw drwy’r dydd! Gallai’m dychmygu’r fath goron i ymddangos ar unrhyw sioe ffasiwn yn y dyfodol agos!
Roedd gweld y fath amrywiaeth o oren yn anhygoel, a dechreuais feddwl am oren yn y byd ffasiwn. Dwi’n cofio cyfnod pan oedd gwisgo oren yn beth dewr iawn i wneud, roedd rhyw gadwyn neu felt llachar yn ddigon ar gyfer un wisg. Ond dros yr hafau diwethaf yma, mae oren wedi dod yn rhyw fath o summer staple.Yn enwedig y lliw ‘Coral’ oherwydd ei fod yn lliw llachar, hapus, sy’n ein hatgoffa ni o’r haul a hafau braf, ac mae’n gweddu lliw haul.
Felly dechreuais edrych ar gasgliadau diweddara y byd ffasiwn, i weld faint o oren oedd yn bodoli. Casgliadau HYDREF 2011 a RESORT 2012 yw’r rhain. Mae bob llun wedi dod o Style.com. Wrth gwrs mae ‘na lawer mwy o oren yn y casgliadau, ond dyma flas o sut all oren edrych. Mwynhewch!
|
Casgliad DKNY hydref 2011 o style.com | |
|
|
|
|
|
|
Twenty8Twelve- hydref 2011 o Style.com |
|
D&G- hydref 2011 o Style.com |
|
Creatures of the wild- hydref 2011 o Style.com |
|
Prada- hydref 2011 o Style.com |
|
Prada- hydref 2011 o Style.com |
|
Herve Leger- Resort 2012 o Style.com |
|
Giles- Hydref 2011 o Syle.com |
|
Louis Vuitton- Resort 2012 o Style.com |
|
Oscar de la renta- resort 2012 o Style.com |
Yda chi’n debygol o wisgo oren yr haf yma? Beth yw eich hoff gasgliad uchod? Gadewch i mi wybod!
Gobeithio bod pobl yn dal i'w ddarllen - falle gwerth creu cyfrif Twitter i'w hyrwyddo (a gadael pobl wybod pan ti'n diweddaru)
ReplyDeleteDw i wedi rhestru'r blog fan hyn:
http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_am_ddillad_a_ffasiwn
Ac mae eraill wedi trydar amdanat yma:
http://topsy.com/y-ffasiwn-beth.blogspot.com/?allow_lang=en
(Ai o Wrecsam ti'n dod? Liciwn i nodi hynny ar wici Hedyn er mwyn dangos dosbarthiad blogiau ar draws Cymru - mae hi braidd yn fain yn y gogledd ddwyrain gwaetha'r modd!)