10/05/2010

Clogynau


Roedd yna glogynau ym mhob man ar y catwalk o YSL i Erdem. Dwi’n meddwl bydd y duedd yma’n cryfhau wrth i’r tywydd fynd yn waeth. Dyma luniau o fy hoff glogynau: 

Llun o style.com
EMPORIO ARMANI- mae'r clogyn yma'n fyr ag yn eitha plaen, ond dwi'n hoff o'r ffordd mae'r clogyn du syml yn gwneud i ffrog syml mewn lliw llachar di batrwm edrych yn fodern iawn.

Llun o Style.com
YSL- Dyma'r gwrthwyneb yn hollol, mae'r clogyn ei hyn mewn defnydd fel sidan mewn lliw llachar, ag fwy fel cot na siaced. Dwi'n hoff o'r ffordd mae'r lliw o'r clogyn yn cael ei adio i waelod y ffrog, yr un fath a'r goler.

Lluniau o wefan Alexander Mcqueen.
ALEXANDER MCQUEEN- Mae'r clogynau yma'n dod o gasgliad anhygoel gan Alexander McQueen, sydd yn un o fy hoff gasgliadau i ers talwm, oherwydd bod bob darn yn anhygoel, a bron fel dillad llwyfan. Mae'r clogynau yma'n edrych yn gyfoethog, a thrwm iawn, a bron yn ddwyreiniol gyda'r holl frodwaith arnynt. Mae nhw bron fel ffrogiau yn ei hunain, er mai clogynau yw'r rhain o fath.




Llun o Erdem.com
ERDEM- Y clogyn yma sy'n ennill y wobr gyntaf yn ol Y Ffasiwn Beth. Dyma fy ffefryn o bell ffordd, rwy'n hoff iawn o holl ddillad Erdem, ond mae'r clogyn yma'n arbennig. Dyma pam: Dwi'n meddwl fod ei hyd yn berffaith, i allu wisgo dros ddillad yn y gaeaf. Mae'r lliw yn wych oherwydd mae yna rywbeth deiniadol iawn rhwng y brown tywyll a'r print blodau/pili pala, sy'n berffaith ar gyfer y hydref.






Llun o style.com
Dyna'r rhai y fyddai'n breuddwydio amdanynt, ond dyma ychydig o glogynau sydd ar gael ar y stryd fawr. Efallai eu bod nhw ddim yn yr un cae a dillad Erdem, ond bydd unrhyw fath o glogyn yn beth da y gaeaf yma.
Dwi'n meddwl mai gan ASOS mae'r dewis gorau, mae rhai newydd yn cyraedd y wefan o hyd.

Llun o asos.com
ASOS- Mae'r ddau glogyn yma'n cael eu henwi'n 'sgarff', ac yn costio £28 Dydi rhein ddim yn ddrud iawn, ag mae'r patrwm yn ddiddorol iawn, oherwydd dydyn nhw ddim yn got fel y lleill, dwi'n meddwl mai rhain yw'r ffordd hawsa i gyflwyno eich hyn i'r duedd.
cliciwch yma i'w weld.



Llun o topshop.com
TOPSHOP- Mae'r clogyn yma yn edrych yn gynnes iawn, rwy'n hoff iawn o'r patrwm y tu fewn iddi. Mae'n costio £75 Cliciwch yma i'w weld.



 Llun o asos.com


ASOS- Enw yr clogyn yma yw, 'ASOS Cape parka' mae'n costio £65. Rwy'n hoff iawn o'r defnydd a'r ffaith ei fod yn edrych yn fwy ysgafn na llawer o glogynau. Cliwich yma i'w weld.


1 comment:

  1. Haia Ffion,
    Dwi'n gynhyrchydd ffasiwn o S4C, neu di gysylltu gyda fi plis?
    sara@antena.co.uk / (02920) 590 392
    Diolch,
    Sara x

    ReplyDelete