4/12/2010

Che Camille (GLASGOW)



Dwi newydd gyrraedd yn ol o Glasgow, a mae gen i lot o newyddion yn ymwneud a ffasiwn o’r ddinas. Mae’n siwr bydd sawl post yn son am y ddinas mewn rhyw ffordd neu gilydd yn yr wythnos nesa ‘ma wrth i mi weithio fy ffordd yn ara bach drwy’r holl gylchgronau ffasiwn Albanaidd prynais yna.
 Es i weld dwy oriel yn y ddinas sef Y Kelvingrove a’r Glasgow Gallery of Modern Art a byddai’n son am y ddwy ymhen yr wythnos, ond i ddechrau’r son am Glasgow ga i ddweud am siop/gweithdy o’r enw Che Camille.
Ron i wedi clywed fod yna gynllunwyr annibynol yn arddangos eu gwaith ar lawr uchaf yr Argyll Arcade ond roedd y grisiau i’r chweched llawr yn edrych yn ddi-ddiwedd, ac ar ol cyrraedd y trydydd llawr a gweld fod dim arwydd am yr oriel yma penderfynais droi’n ol a’i bod hi’n well i mi fynd i edrych ar y dillad oedd ar gael yn House of Fraser ar draws y stryd. 


Wrth i mi droi’n ol gwelais lifft, felly es i fyny i’r chweched llawr, just rhag ofn fod yna rhywbeth arbennig ar ben yr adeilad. Mae’n rhaid i mi ddweud, dwi mor hapus y gwnes i, oherwydd mae’r siop yma’n anhygoel. 
Dechreuodd y siop gyda pymtheg o gynllunwyr o Glasgow a Chaeredin ond rwan mae wedi tyfu ag mae ganddyn nhw gynllunwyr o bob rhan o’r Alban, Sweden, Y Ffindir a’r Eidal. Mae yna stiwdio lle mae cynllunwyr yn gallu rhentio allan yng nghefn y siop, a mae eu gwaith yn gorffen i fyny ar brif lawr y siop. Mae dillad yn rhai diddorol iawn, a mae eu casgliad o emwaith, bagiau, bathodynnau ac  esgidiau’n wych! Mae nhw hefyd yn gwneud ddillad arbennig ar eich cyfer, ar ol cyfarfod i siarad am syniadau ar gyfer eich dillad mae nhw’n helpu chi i ddewis y defnydd ac yna’n gwneud y dilledyn yn arbennig ar eich cyfer.
 Ron i’n siarad am yn hir gyda Roslin oedd yn cynllunio dillad dynion yna, ac roedd hi wrth ei bodd i glywed y byswn yn siarad am Che Camille ar fy mlog. Felly rhois y cyfeiriad iddi gael edrych arno, ar ol ei rhybuddio fod y cyfan yn Gymraeg! Mi roedd hi hefyd yn garedig iawn wrth adael i mi dynnu lluniau o’r siop. A dyma nhw.... 
 


Cymerais lawer o bamffledi, cardiau busnes a ‘look book’ y cynllynwyr. Roedd sawl gwahoddiad i nosweithiau agor casgliad newydd gan y cynllunwyr yna, ond yn anffodus dydw i ddim yn mynd i Glasgow yn y dyfodol agos, felly doedd rheina ddim iws i mi.
Cerwch i weld y wefan ar checamille.com, mae yna siop ar y wefan gydag ychydig o’r dillad sydd ar gael ond dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o’r dillad yn rhai unigryw felly dydyn nhw ddim ar gael ar y we. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth gallwch yrru e-bost i threads@checamille.com neu ffonio 01412219620

No comments:

Post a Comment