1/15/2010

pre-fall 2

Dyma'r ail ran o'r pre-fall special! Mae'n raid i mi gyfaddef fod y dillad canlynol yn rhai byddai byth yn ei wisgo ond mae nhw'n ddarnau o gelf, ac felly yn rhy ddel i gael eu gwisgo ar unrhyw le arwahan i'r carped coch. Ag dyna lle rydych yn gweld Oscar de la Renta fel arfer.


Ie Oscar de la Renta yw'r casgliad yma. dyma fy hoff ffrogiau o'r casgliad.
Yda chi'n gweld yr holl waith sydd wedi myhnd i fewn i'r ffrog yma? Mae'n ddigon syml i fynd i unrhyw barti ag ddim y carped coch yn unig!



Dyma fwy o sequins gwyn! Mae'n fy atgoffa i o ddwr yn syrthio lawr y ffrog, beth yda chi'n ei feddwl?


Os ydych y siap iawn, dwi'n meddwl fod ffrog fel yma yn syniad ardderchog.Bysa adio ychydig o emwaith arian i dop y ffrog yn adio rhyw fath o liw.


Dydw i ddim yn siwr am y ffrog yma, mae'r holl sequins yn neis iawn ond os ydw i'n gweld ffrog pinc yn y siap yma mae llun o ffrog priodas Jordan yn dod i fewn i fy mhen, sydd yn amlwg ddim yn beth da! Beth yda chi'n ei feddwl?

No comments:

Post a Comment