Felly beth yw'r wefan arbenig yma? Ei enw yw Iconigue, ag mae'n wefan dwi'n edrych arno yn aml iawn . Mae'r wefan yn enwog am eu 'fashion editorials' ond mae llawer o rhain ar ffyrf fideo felly os ydych eisiau eu gweld cerwch i'r wefan sef: www.iconique.com
Mae nhw'n editorials anhygoel! Mae nhw'n ddarnau o gelf modern. Mae'r lluniau yma o sioe (sori!) Chanel haute coutre F/W gan Karl Lagerfeld. Ond ddim lluniau o ddillad yn unig yw rhain, mae'r blodau o wallt ar het yn gwneud y llun yn hynod o ddiddorol.
Dwi'n meddwl fod y llun yma yn wych hefyd! Oherwydd fod yr holl batrymau a siap y dillad yn edrych yn 'retro' iawn.
Wrth feddwl am y llun yma fel waith celf ac ddim fel llun ffasiwn, dwi'n meddwl fod y ddynes yn cuddio oherwydd ei bod yn teimlo'n ofnys neu'n drist ond mae hi hefyd yn edrych yn gryf yn y ffordd mae hi'n sefyll ag y dillad mae hi'n ei wisgo.
Mae'r gwahanol editorials gan wahanol arlunwyr, ag fel y dwedais mae'r casgliad yma gan Karl Lagerfeld. Ond os ydych yn erdych ar y wefan mae yna lunia a cerddoriaeth i bob casgliad. Ewch i edrych !!
No comments:
Post a Comment