Os ydych erioed wedi bod i'r siop Topshop yn Oxford Circus yn Llundain byddech yn gwybod fod pethau arbenig yn digwydd yno! Ar y 15fed o Chwefror mae casgliad o wahanol gwmniau 'designer' o wahanol wledydd yn dod i'r siop i ddangos eitemau o eu casgliad S/S.
Dwi'n hoff iawn o'r syniad yma, oherwydd mae'n rhoi'r cyfle i ni weld cwmniau newydd. Yr unig anfantais yw fod rhaid mynd i Llundain i weld y dillad. Ond peidiwch a poeni, dwi wedi edrych ar wefanau y cwmniau fydd yn Topshop Edit, ag wedi gwneud rhyw fath o gasgliad o lluniau.
Bydd ddau rhan i'r Edit, Yn y rhan gyntaf y cwmniau fydd yn Edit fydd: Wear it for the boy, Diana Orving, Nakkna, KTZ, Marios, Resterods a Elton and Jacobsen.
Dyma ychydig am bob cwmni:
Wear It For The Boy (http://www.wearitfortheboy.com/)
Lluniau o wefan Wear It For The Boys wedi cael ei ail-greu
Mae'r cwmni yma o Denmarc. Mae llawer o printiau lliwgar, a mi rydw i'n hoff iawn o'r print dwylo ar y top uchod.
Diana Orving (http://www.dianaorving.com/) llyniau o wefan Diana Orving- wedi cael ei ail greu
Cwmni o Sweden. Mae'r printiau yma'n brydferth iawn, ag mae siapiau y dillad llawer mwy merchetaidd.
Nekkna (http://www.nakkna.com/) Lluniau o wedan Nekkna, wedi ail greu
Dyma'r dillad gyda'r siapiau gorau, mae'r cwmni o Sweden eto.
KTZ(http://www.kokontozai.co.uk)
Lluniau o wefan KTZ yna wedi cael ei ail greu.
Mae'r holl ddillad yma yn ddiddorol iawn. Ag yn amlwg o'r llun uchod mae'n cwmni hwyl.
Marios (http://www.myspace.com/mar1os)
Unaiwth eto, lluniau o'r wefan ond wedi cael ei ail greu
Cwmni o'r Eidal. Mae rhan fwyaf o'r dillad yn ddu, neu'n llwyd. Ond yn siapiau diddorol.
Resterods (http://www.resterods.com/)
Lluniau o'r wefan ag yna ei ail greu!
Mae'r cwmni yma o Sweden, ag mae'n raid I mi ddweud fy mod yn hoff iawn o'r dillad. Mae'r casgliad Hydref yn dda iawn!
Elton & Jacobsen (http://eltonjacobsen.com/)
Lluniau o'r wefan yna wedi cael eu ail-greu
Cwmni o Norwy. Mae'r casgliad yma yn ddel iawn, ag y fath o ddillad mi y baswn i'n eu gwisgo.
Felly dyna'r fath o ddillad fydd yn yr Topshop yn Llundain, ond cerwch i edrych ar y gwefannau uchod, os ydych yn gweld rhybeth arbenig, gallwch ei brynu ar y wefan!
Byddai'n creu post tebyg am yr ail ran o'r Topshop Edit yn Mis Mawrth.