Rydw i'n fyw ar y blogiadur rwan! Croeso i ddarllenwyr newydd. Diolch Aran.
Dydd Llun, roedd hi'n ganmlwyddiant Diwrnod Rhyngwladol Merched. I ddathlu y diwrnod mae llawer o gynllunwyr, benywaidd ar y cyfan, wedi cynllunio crys-T yr un. Mae nhw ar gael ar NET-A-PORTER.COM yn unig, wedi cael eu creu gan Harper's Bazaar a gyda'r elusen Women for Women, mae nhw'n elusen sy'n trio creu ymwybyddiaeth am galedi aruthrol ledled byd i ferched.
Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women
Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women a Bella Freud
Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women a Betty Jackson
Crys T gan Harper's Bazaar, Women for Women a Jimmy Choo
Mae pob un o'r crysau T yma'n costio £30. Cerwch i wefan Net-a-porter.com i weld pob un o'r cynlluniau. Pa un yw eich hoff un chi?
Croeso mawr - mae'n braf cael chdi efo ni!...:-)
ReplyDelete