1/28/2010

SHABD


Printiau y cwmni yma sydd yn gwneud y dillad yma yn arbenig. Dwi'n meddwl ei fod yn edrych fel bod paent dyrfliw wedi cael ei olchi i ffwrdd.

 
 
 
Y teits yw fy hoff eitem o'r casgliad S/S10. Mae nhw ar gael o'r wefan sef http://www.shop.shabdismyname.com/shop.html. Mi faswn i wrth fy modd yn cael par o'r teits yma ond yn anffodys mae nhw'n costio £130 y par!




Mae'r teits yn fy atgoffa o gasgliad gan Michael Angel:

 

Dwi'n cofio pan welais i'r rhain am y tro cyntaf a meddwl ei bod nhw'n ddarnau anhygoel o gelf, ond yn rhy od i wisgo!
Ond rwan mae nhw ar SEL!! Felly cerwch i wefan Michael Angel i weld  -http://www.michaelangelshop.net/category_s/34.htm.

1/23/2010

CROP TOPS

Dwi wrth fy modd gyda'r syniad o crop tops, oherwydd mae'n ffordd o adio haen arall at eich gwisg. Ond os ydych ofn gwisgo unrhyw crop top oherwydd does neb yn cael gweld eich bol, giwsgwch dop bach o dan y topiau byr yma.
Dyma fy nghasgliad o'r 'crop tops' gorau ar yr Stryd Fawr.

 
Top lace o Warehouse- £45



Cardigan crop 'Rosalind', Oasis £35 


Top o Urban Outfitters, £20

Mae gan Topshop gasgliad mawr o dopiau crop, ag mae rhai ohonynt yn ddel iawn. Un o fy hoff dopiau ar yr farchnad yw'r top blodau yma

 'Sequin Daisy cropped tee' £28 o Topshop


1/19/2010

Topshop EDIT

Os ydych erioed wedi bod i'r siop Topshop yn Oxford Circus yn Llundain byddech yn gwybod fod pethau arbenig yn digwydd yno! Ar y 15fed o Chwefror mae casgliad o wahanol gwmniau 'designer' o wahanol wledydd yn dod i'r siop i ddangos eitemau o eu casgliad S/S.
Dwi'n hoff iawn o'r syniad yma, oherwydd mae'n rhoi'r cyfle i ni weld cwmniau newydd. Yr unig anfantais yw fod rhaid mynd i Llundain i weld y dillad. Ond peidiwch a poeni, dwi wedi edrych ar wefanau y cwmniau fydd yn Topshop Edit, ag wedi gwneud rhyw fath o gasgliad o lluniau.
Bydd ddau rhan i'r Edit, Yn y rhan gyntaf y cwmniau fydd yn Edit fydd: Wear it for the boy, Diana Orving, Nakkna, KTZ, Marios, Resterods a Elton and Jacobsen.
Dyma ychydig am bob cwmni:

Wear It For The Boy (http://www.wearitfortheboy.com/) 


Lluniau o wefan Wear It For The Boys wedi cael ei ail-greu
Mae'r cwmni yma o Denmarc. Mae llawer o printiau lliwgar, a mi rydw i'n hoff iawn o'r print dwylo ar y top uchod.

Diana Orving (http://www.dianaorving.com/)

 llyniau o wefan Diana Orving- wedi cael ei ail greu
Cwmni o Sweden. Mae'r printiau yma'n brydferth iawn, ag mae siapiau y dillad llawer mwy merchetaidd. 

Nekkna (http://www.nakkna.com/)


 Lluniau o wedan Nekkna, wedi ail greu
 Dyma'r dillad gyda'r siapiau gorau, mae'r cwmni o Sweden eto. 

KTZ(http://www.kokontozai.co.uk)


Lluniau o wefan KTZ yna wedi cael ei ail greu. 
 Mae'r holl ddillad yma yn ddiddorol iawn. Ag yn amlwg o'r llun uchod mae'n cwmni hwyl.

Marios (http://www.myspace.com/mar1os)



Unaiwth eto, lluniau o'r wefan ond wedi cael ei ail greu
Cwmni o'r Eidal. Mae rhan fwyaf o'r dillad yn ddu, neu'n llwyd. Ond yn siapiau diddorol.

Resterods (http://www.resterods.com/)

Lluniau o'r wefan ag yna ei ail greu!
Mae'r cwmni yma o  Sweden, ag mae'n raid I mi ddweud fy mod yn hoff iawn o'r dillad. Mae'r casgliad Hydref yn dda iawn!

Elton & Jacobsen (http://eltonjacobsen.com/)

Lluniau o'r wefan yna wedi cael eu ail-greu
Cwmni o Norwy. Mae'r casgliad yma yn ddel iawn, ag y fath o ddillad mi y baswn i'n eu gwisgo.

Felly dyna'r fath o ddillad fydd yn yr Topshop yn Llundain, ond cerwch i edrych ar y gwefannau uchod, os ydych yn gweld rhybeth arbenig, gallwch ei brynu ar y wefan!

Byddai'n creu post tebyg am yr ail ran o'r Topshop Edit yn Mis Mawrth.

1/18/2010

Ìconique

Dwi wedi sylweddoli fod rhan fwyaf o'r posts yma i wneud gyda gwahanol sioeau, ag dwi eisiau amrywiaeth o bethau ar y blog yma, felly gwybodaeth am wefan yw'r post yma ddim am sioeau.
Felly beth yw'r wefan arbenig yma? Ei enw yw Iconigue, ag mae'n wefan dwi'n edrych arno yn aml iawn . Mae'r wefan yn enwog am eu 'fashion editorials' ond mae llawer o rhain ar ffyrf fideo felly os ydych eisiau eu gweld cerwch i'r wefan sef: www.iconique.com


Mae nhw'n  editorials anhygoel! Mae nhw'n ddarnau o gelf modern. Mae'r lluniau yma o sioe (sori!) Chanel haute coutre F/W gan Karl Lagerfeld. Ond ddim lluniau o ddillad yn unig yw rhain, mae'r blodau o wallt ar het yn gwneud y llun yn hynod o ddiddorol.

Dwi'n meddwl fod y llun yma yn wych hefyd! Oherwydd fod yr holl batrymau a siap y dillad yn edrych yn 'retro' iawn. 

 
Wrth feddwl am y llun yma fel waith celf ac ddim fel llun ffasiwn,  dwi'n meddwl fod y ddynes yn cuddio oherwydd ei bod yn teimlo'n ofnys neu'n drist ond mae hi hefyd yn edrych yn gryf yn y ffordd mae hi'n sefyll ag y dillad mae hi'n ei wisgo.
 
Mae'r gwahanol editorials gan wahanol arlunwyr, ag fel y dwedais mae'r casgliad yma gan Karl Lagerfeld. Ond os ydych yn erdych ar y wefan mae yna lunia a cerddoriaeth i bob casgliad. Ewch i edrych !!


1/17/2010

Dillad isaf!

Bydd lot o son am ddillad isaf yn gwanwyn 2010. Ond mae disgwyl i ni wisgo dillad isaf ar ben eich dillad arferol! Roedd erthygl am hyn yn y guardian ar ddydd sadwrn gyda llun o ffrog o urban outfitters.
Dydw i ddim yn siwr am y syniad yma, felly dwi wedi ffeindio lluniau o'r trend i drio newid fy meddwl.


Llun 1af - Dolce & Gabbana
2il- Jason Wu
3ydd- Marc Jacobs

Dwi'n hoffi'r llun gan Dolce & Gabbana ond gallai ddim gweld llawer o bobl yn dilyn y trend yma.
Beth yda chi'n ei feddwl, bydd dillad isaf yn cael ei wisgo y tu allan yn y gwanwyn ?

1/15/2010

Yr sioe olaf y byddai'n son amdano yw Nina Ricci. Mae yna rhai eitemau o'r sioe yma dydw i ddim yn ei hoffi ond mae'r ffrog glas golau yn un o fy hoff eitemau o bob sioe pre-fall rydw i wedi eu gweld.


Pam ydw i'n hoffi'r ffrog yma gymaint? 1) Oherwydd mae'n hyd da, dydio ddim yn dangos gormod o groen ond yn ddigon byr i wisgo i barti. 2) Mae'r lliw a'r defnydd yn fy atgoffa o dylwyth teg. a 3) Dwi'n hoff iawn o'r got hefyd, mae'n gwneud i'r ffrog edrych yn llai ffurfiol.
Baswn i'n gwisgo'r ffrog yma gyda gemwaith aur neu perlau, cardigan o H&M , teights lliw hufen ag sgidiau bach glas tywyll.



Dwi ddim yn gwybod os ydw i'n gweld pethau ond dwi'n meddwl fod y dewis o fodel ar gyfer y casgliad yma yn un od iawn. Mae hi'n ddynes brydferth iawn ond, dwi'n meddwl fod y lipstick coch yn erdych yn rhy gryf o lawer,(a dyma'r peth mwyaf od) mae ei phen hi'n edrych yn fawr iawn i gymharu gyda maint ei chorff. Dwi'n siwr mae ongl y camera sydd ar fai. Yda chi'n gallu gweld fy mhwynt?



Dwi'n hoff iawn o siapiau dillad Nina Ricci, ar defnyddiau. Does ddim patrymau, ond dwi'n meddwl gall ormod o batrymau edrych yn fler. Mae'n wir for yr holl gasgliad yn edrych yn lan ag yn daclus.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau fy mini pre-fall special!

pre-fall 2

Dyma'r ail ran o'r pre-fall special! Mae'n raid i mi gyfaddef fod y dillad canlynol yn rhai byddai byth yn ei wisgo ond mae nhw'n ddarnau o gelf, ac felly yn rhy ddel i gael eu gwisgo ar unrhyw le arwahan i'r carped coch. Ag dyna lle rydych yn gweld Oscar de la Renta fel arfer.


Ie Oscar de la Renta yw'r casgliad yma. dyma fy hoff ffrogiau o'r casgliad.
Yda chi'n gweld yr holl waith sydd wedi myhnd i fewn i'r ffrog yma? Mae'n ddigon syml i fynd i unrhyw barti ag ddim y carped coch yn unig!



Dyma fwy o sequins gwyn! Mae'n fy atgoffa i o ddwr yn syrthio lawr y ffrog, beth yda chi'n ei feddwl?


Os ydych y siap iawn, dwi'n meddwl fod ffrog fel yma yn syniad ardderchog.Bysa adio ychydig o emwaith arian i dop y ffrog yn adio rhyw fath o liw.


Dydw i ddim yn siwr am y ffrog yma, mae'r holl sequins yn neis iawn ond os ydw i'n gweld ffrog pinc yn y siap yma mae llun o ffrog priodas Jordan yn dod i fewn i fy mhen, sydd yn amlwg ddim yn beth da! Beth yda chi'n ei feddwl?

1/14/2010

pre-fall.

Beth yw'r 'pre-fall' yma rydw i'n clywed cymaint ohono? Casgliad o ddillad, self S/S neu A/W ond mae'n gasgliad llai nag yr arfer. I fod yn onest, ychydig o eitemau ychwanegol sydd yn dod yn sydyn iawn arol y casgliad haf yw'r Pre-Fall. Ond dwi wedi gwneud fy ymchwil ar eich cyfer, ag wedi gweld llawer o ddilad bydd yn eich cario yr holl ffordd i 2011!
Dwi'n meddwl y byddai'n son am sawl sioe dros ddau post gwahanol a)oherwydd fy mod bach yn ddiog, b)oherwydd bod genai sawl sioe i siarad amdano!
Felly ymlaen i'r sioe cyntaf,

Michael Kors: Dywedodd Kors ei hyn fod ei gasgliad yn "seasonlessness", felly er bydd y casgliad yma yn gostys, bydd pop ddarn o ddillad yn para am flynyddoedd ac ddim yn mynd allan o ffasiwn, ag yn blaen dyna ystyr 'pre-fall'.







Dwi'n hoff iawn o'r sgert yn yr ail lun, a'r ffordd mae'r defnydd yn edrych yn fwy diddorol ar ty fewn y dillad na'r golwg allanol. Mae'r ffrog yn edrych fel ei fod i gael ei wisgo y ffordd arall, oherwydd fod yr defnydd yn fwy clir y ffordd yna.


Y sioe nesaf yw.. Lanvin. Casgliad llawer mwy dros y top, ond eto gyda eitemau prydferth iawn. Efallai byswn yn gwisgo un eitem o bob llun canlynol gyda eitemau plaen eraill.







Dwi'n meddwl fod y casgliad yma yn un llawer mwy trist, tywyll ac unig i ryw raddau. Dwi'n hoff iawn o'r ffrog yn y llun cyntaf, a'r defnydd o'r holl emwaith yn yr ail lun. Ag mae'r sgert wen yn yr llun uchod yn anhygoel!
Felly dyna dri peth fydd dal i fod yn fyw ag yn iach erbyn dechrau hydref 2010:
1af- y defnydd o ddu. (ond gyda rhyw fath o sparkle)
2il- Llawer o gadwynau o bob maint
3ydd- Mwy o SEQUINS! Mae nhw wedi bod yma ers misoedd ond bydd hi'n werth cael rhyw eitem newydd sequins ar gyfer dolig nesaf!

1/10/2010

Eira

Dwi wedi trio fy ngorau glas i beidio son am eira dros yr wythnosau diwethaf. Does genai ddim byd yn erbyn eira, ond dyna cwbl sydd ar yr newyddion y dyddiau yma, felly mae'n ddrwg genai eich bod yn clywed mwy am eira ar flog ffasiwn hefyd!

Ond...

Dyma ychydig o bethau allawch gael i'ch helpu drwy'r holl eira!
£630, gan Chanel (0207 493 5040)

£245, gan Markus Lupfer yn Start

£18, 0 Warehouse

£49.99, o River Island

£185,Premium o Topshop

Llyniau o wefan Elle,River Island a Topshop

1/09/2010

Twmpath!

Heno mi fyddai yn dawnsio gwerin tan oriau man y bore. Efallai wrth glywed y geiriau dawnsio gwerin mae delwedd o ddynes mewn gwisg draddodiadol yn dod i fewn i'ch pen. Ond os ydych erioed wedi bod mewn twmpath, bysach yn meddwl yn wahanol! Ag nid unrhyw twmpath mohono, ond twmpath hen galan.
Gadewch i mi ddisgrifio twmpath hen galan i chi: Mae'n ddathliad yr hen flwyddyn newydd, rydych yn dwnsio gwerin drwy'r nos, ond gyda ambell cor yn canu rhwng gwahanol eitemau. Wedyn am hanner nos mae'r Fari Lwyd yn dod allan, (penglog ceffyl wedi ei addurno) ag wrth ddawnsio rydym yn cicio'r ceffyl. Dwi'n gwybod fod hyn yn swnio'n hollol wallgo. Ag er nad ydw i'n siwr pam mae penglog ceffyl yn ei'n croesawu i'r flwyddyn newydd mi rydw i wedi dod i arfer ei chicio ag mae'n raid i mi ddweud fy mod i'n edrych ymlaen amdano!
Rwan, dwi'n gwybod beth rydych ym meddwl (arwahan i pa mor wallgo yw'r twmpath yma), beth sydd gan hyn i wneyd gyda ffasiwn? Wel dim llawer ond peidiwch poeni dwi wedi meddwl am rhyw fath o gysylltiad!
A dyma hi:



Yr hen ddynes gymreig. Sydd yn aml yn cael ei chysylltu gyda dawnsio gwerin neu clocsio. A dyma'r cysylltiad eithaf clyfar (hydynoed os nai ddweyd fy hyn)



Dyma gasgliad A/W 2009 Alexander McQueen.. Dwi'n cofio gweld llyniau o'r sioe misoedd ynol a meddwl fod o'n edrych fel yr hen wisg gymreig oedd pawb yn gwisgo ar y 1af o Fawrth yn yr ysgol gynradd, ond yn amlwg ddim yn union!
Dyma ychydig fwy o'r casgliad:





A dyma lyniau o'r casgliad newydd ar eich cyfer (sydd gyda dim cysylltiad hefo unrhyw dwmpath!)







Llyniau o wefan ELLE o sioe A/W 09 a S/S 10 Alexander McQueen.